Wrecsam 2 - 0 Caerfaddon
- Cyhoeddwyd

Ar ôl colli yn erbyn Forest Green nos Fawrth, fe wnaeth chwaraewyr Wrecsam ddangos cryfder cymeriad i ennill gartref am y seithfed tro yn olynol.
Y cefnwr Curtis Obeng sgoriodd yn gynnar ar ôl cyfnewid y bêl yn gyflym gyda Jake Speight.
Speight a ddyblodd y fantais yn fuan ar ôl yr egwyl gyda chic o'r smotyn ar ôl i Mark Preece ei faglu .
Mae Caerfaddon yn parhau ar waelod y gynghrair.
Fe wnaeth Fleetwood guro Forest Green 2-1, er iddyn nhw ildio'r gôl gyntaf.
Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet
Fe wnaeth Casnewydd sgorio ddwywaith yn y chwe munud olaf i ddod yn ôl ar bod dwy gôl er ei hôl hi i faeddu Gateshead.
Gôl Foley ar 90 munud ddaeth â nhw yn gyfartal cyn i Harris sicrhau buddugoliaeth bwysig yn y pedwerydd munud o'r amser a ganiataed oherwydd anafiadau.
Diwrnod dilychwyn i glybiau Cymru yn y Gyngres.