Cwpan FA Lloegr
- Published
Bolton 2-1 Abertawe
Mae Cwpan FA Lloegr wedi dod i ben i Abertawe yn y bedwaredd rownd.
Gyda'u deg newid ar gyfer y daith i Bolton mi gafodd yr Elyrch eu curo'n haeddianol - sgoriodd Darren Pratley yn erbyn ei gyn-glwb.
Luke Moore roddodd yr ymwelwyr ar y blaen yn erbyn rhediad y chwarae trwy godi'r bêl uwchben y golwr ar 43 munud.
Pratley ddaeth â Bolton yn gyfartal yn yr amser a ganiateid ar gyfer anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf, trwy benio wedi cic rydd Petrov.
Manteisiodd Chris Eagles ar gamgymeriad Gerhard Tremmel i selio'r fuddugoliaeth i Bolton.
Y gemau eraill
Byddai wedi gwneud rownd derfynol ddigon derbyniol, ond wedi colli yn Lerpwl ma' taith Manchester United ar ben ymhell o Wembley.
Ar goll yn y gôl dros yr ymwelwyr, ansicrwydd David de Gea oedd ar fai am ymdrech gynnar Daniel Agger.
Roedd honno'n dechrau addawol i Lerpwl oedd am i hon gael ei chofio am y rhesymau cywir - yn gefnlen i'r gêm roedd y sylwadau hiliol wnaed gan Luis Suarez ar ymweliad United ag Anfield dri mis yn ôl.
Ond mi aeth y tîm cartre' i'w cregyn, ac roedd United yn llawn haeddu'r gôl gan Ji Sung Park a'i gwnaeth hi'n gyfartal.
Ond ni fydd rhaid ail-chwarae - mae'n amlwg nad oedd chwant taith i Old Trafford ar Dirk Kuit. Dwy i un y sgôr terfynol.
Doedd 'na ddim ysgwyd dwylo cyn i QPR wynebu Chelsea wrth i Gymdeithas Bêl-Droed Lloegr geisio lleddfu rhywfaint ar y tensiynau rhwng Anton Ferdinand a John Terry sy' wedi'i gyhuddo o wneud sylwadau hiliol tuag ato 'nôl ym mis Hydref.
Dadleuol â dweud y lleia' oedd y gic o'r smotyn arweiniodd at fuddugoliaeth Chelsea o un i ddim. Juan Mata wnaeth y gweddill.
Yn Hull ddaeth sioc fwya'r dydd wrth i Crawley o Adran 2 guro'r clwb o'r Bencampwriaeth. Rhwydodd Birmingham bedair gwaith yn Sheffield United tra i Norwich lorio West Brom.