Colli cyn bêl-droediwr rhyngwladol
- Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol sydd wedi marw yn 92 oed.
Roedd Syd Thomas yn byw ym Machynlleth, lle cafodd ei eni a'i fagu.
Chwaraeodd i Fulham rhwng 1939 a 1950 ac enillodd bedwar cap i Gymru rhwng 1947 a 1948.
Cafodd rhai o'i atgofion eu cyhoeddi mewn llyfr gan yr hanesydd lleol, David Wyn Davies.
Dywedodd Mr Wyn Davies: "Roedd yn ddyn hynod ddymunol.
"Roedd yn eithaf anodd i gael manylion am ei fywyd pêl-droed allan ohono oherwydd roedd yn ddyn mor ddiymhongar".
Fe gafodd Syd ei eni yn 1919 ac arwyddodd i Fulham yn 1938 ar ôl i reolwr y clwb, Jack Peart, ei wylio yn chwarae gêm gartref i Fachynlleth.
Pencampwriaeth
Ond amharwyd ar ei yrfa fel pêl-droediwr oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
Ond ar ôl iddo adael yr Awyrlu ar ddiwedd y rhyfel chwaraeodd ei gêm gyntaf i Fulham yn 1946 a bu'n aelod o'r tîm enillodd bencampwriaeth yr ail adran yn 1948-49.
Arwyddodd Syd i Bristol City am £9,000 yn 1950, yr un tymor ag y chwalodd y Cymro, Trevor Ford, y record am daliad trosglwyddo ym Mhrydain - pan symudodd o Aston Villa i Sunderland am £30,000.
Enillodd ei gap cyntaf dros ei wlad yn erbyn Lloegr ym mis Hydref 1947.
Yn y gêm honno chwaraeodd yn erbyn rhai o'r blaenwyr mwyaf enwog fu'n chwarae i Loegr erioed, Stanley Matthews, Tommy Lawton, Stan Mortenson, Wilf Mannion, a Tom Finney.
'Cyflym iawn'
Pan gafodd ei gofiant ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2011, dywedodd mab Mr Thomas, Clive: "Mae fy nhad wedi dweud wrtha i i'r gêm yn erbyn Lloegr ym Mharc Ninian o flaen 60,000 fynd heibio mewn fflach a dyw e ddim yn cofio llawer am wynebu chwaraewyr fel Stanley Matthews a Billy Wright.
"Ond mae e wastad yn chwerthin pan mae pobl yn sôn am ddulliau ymarfer chwaraewyr modern.
"Mae fy nhad yn cofio mai'r unig ymarfer wnaeth tîm Cymru cyn y gêm yn erbyn Lloegr oedd loncian o amgylch eu gwesty ym Mhorthcawl.
"Does dim rhyfedd fod Cymru wedi colli 3-0.
"Er mai dim ond pum troedfedd a phum modfedd ydyw o ran taldra, yn ôl pob sôn, roedd e'n gyflym iawn ac rwy'n siŵr mai dyna un o'r rhesymau pam y cafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru," meddai ei fab y llynedd.
Yn 1951 bu'n rhaid i Syd ymddeol o'r gêm oherwydd y diciáu.
Ar ôl gwella dychwelodd i Fachynlleth lle bu'n gweithio fel pobydd tan ei ymddeoliad yn 1987.
Bu farw yn gynharach y mis hwn ac roedd ei angladd ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- 6 Medi 2011