'Byddwch yn barod am eira'

eira ar gar Image copyright Other
Image caption Mae disgwyl i law sy'n ymledu o'r gorllewin droi yn eira ddydd Sul

Gallai eira achosi trafferthion ar ffyrdd mewn rhannau o Gymru yn ystod y 24 awr nesaf, mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio.

Mae Cyngor Blaenau Gwent eisioes wedi graeanu'r ffyrdd, ac mae disgwyl yr eira trymaf i ddisgyn ym mlaenau'r cymoedd a dwyrain Sir Gaerfyrddin.

Mae'r swyddfa wedi cyhoeddi rhybudd ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru, gyda disgwyl i rannau o'r de gael eu heffeithio gwaetha.

Mae disgwyl i law sy'n ymledu o'r gorllewin droi yn eira ddydd Sul, gyda'r potensial ar gyfer 10cm (4 modfedd), yn enwedig ar dir uchel.

Gall yr eira syrthio ar dir isel hefyd ac mae'r Swyddfa Dywydd yn annog pobl i fod yn ofalus wrth deithio yn enwedig bore Llun wrth fynd i'r gwaith.

Mae rhybudd melyn ("byddwch yn barod") wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o'r de o 3:30pm ddydd Sul hyd 12:00pm ddydd Llun.

Mae'r Swyddfa wedi cyhoeddi rhybudd llai, "byddwch yn wyliadwrus" ar gyfer gweddill Cymru, heblaw am rannau mwyaf gogleddol y wlad.

Yn ôl dyn tywydd BBC Cymru, Derek Brockway, yr wythnos hon fydd "yr oeraf y gaeaf hwn hyd yn hyn".

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.