Cynnal cwest i farwolaeth Gary Speed

Gary Speed Image copyright PA
Image caption Bu Gary Speed yn gapten ar Gymru 44 o weithiau gan sgori saith gôl cyn mynd ymlaen i fod yn reolwr

Bydd cwest i farwolaeth cyn-reolwr pêl-droed Cymru, Gary Speed, yn cael ei gynnal yn Warrington yn ddiweddarach.

Cafwyd hyd i gorff Mr Speed, oedd yn 42 oed, yn ei gartref yn Huntington ger Caer ym mis Tachwedd y llynedd.

Pan ddaeth y newyddion am ei farwolaeth, bu cyfeillion a chydweithwyr yn son am eu tristwch a'u sioc.

Dywedodd y teulu eu bod wedi cael llethu gan negeseuon o gefnogaeth.

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio yn fuan wedi ei farwolaeth, ac yno daeth cadarnhad mai ei wraig Louise ddaeth o hyd i'w gorff ychydig cyn 7:00am ar Dachwedd 27.

Nid yw'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Clywodd y cwest hefyd mai achos ei farwolaeth oedd iddo gael ei grogi, ond mae disgwyl adroddiadau pellach gan y patholegydd.

Gêm goffa

Daeth teyrngedau lu o'r byd chwaraeon ledled y byd pan ddaeth y newyddion am ei farwolaeth.

Cafodd munud o ddistawrwydd ei gynnal mewn gemau pêl-droed ar draws y wlad gyda chefnogwyr nifer o'i gyn-glybiau - Leeds United, Everton a Newcastle United yn eu plith - yn gadael blodau, lluniau a sgarffiau er cof amdano.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth cefnogwyr Leeds United adael teyrngedau i Gary Speed yn Elland Road

Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y bydd gêm nesaf Cymru - yn erbyn Costa Rica ar Chwefror 29 - yn gêm goffa i Gary Speed.

Enillodd y cyntaf o'i 85 cap i Gymru yn erbyn Costa Rica yn 1990.

Enillodd mwy o gapiau i Gymru na'r un chwaraewr arall heblaw am golwyr, a bu'n gapten 44 o weithiau gan sgorio 7 gôl.

Yn gynharach eleni, cafodd cyfaill Speed, Chris Coleman, ei enwi fel olynydd iddo yn rheolwr ar Gymru.

Straeon perthnasol