Rhybudd i yrwyr wedi eira
- Cyhoeddwyd

Cafodd gyrwyr mewn sawl rhan rybudd am eira ar y ffyrdd fore Llun.
Disgynnodd hyd at ddwy fodfedd (5cm) o eira yn y Cymoedd a hefyd yn Sir Benfro yn gynnar fore Llun.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd ambr (Byddwch yn baratoi am eira) yn rhannau o dde Cymru tan hanner dydd ddydd Llun.
Roedd rhannau o'r A4069 rhwng Brynaman a Llangadog yn Sir Gaerfyrddin ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd eira.
Y disgwyl yw mai De Cymru fyddai'n diodde' waethaf ar ddechrau wythnos oeraf y gaeaf.
Ar ffyrdd bach Sir Benfro roedd amgylchiadau peryglus wedi cwymp cyson o eira ers canol brynhawn Sul.
Roedd adroddiadau am eira ac eirlaw ar Heol Blaenau'r cymoedd yr A465 a rhybudd i yrwyr gymryd gofal.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, roedd disgwyl i'r tymheredd barhau rhwng 1-4C (34 - 39F), gyda gwyntoedd cymedrol o'r dwyrain.
Ambiwlans
Ym Mhowys, roedd rhan o Ysgol Uwchradd Llandrindod ar gau - dim ond ar gyfer disgyblion blynyddoedd 10, 11, 12 ac 13 yr oedd yr ysgol ar agor.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod ambiwlans wedi mynd i drafferthion oherwydd eira ym Mhowys dros nos.
Daeth adroddiadau bod yr ambiwlans yn llithro oherwydd eira ger y Mynydd Du i'r gogledd o'r Fenni tua hanner nos.
Llwyddwyd i symud y cerbyd heb orfod galw am fwy o gymorth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2012