Cwyn Casnewydd am Gwpan Cymru

Rheolwr Casnewydd Justin Edinburgh Image copyright Getty Images
Image caption Mae Justin Edinburgh yn teimlo y dylai fod wedi ail-drefnu gemau Casnewydd yn y gwpan

Mae rheolwr Casnewydd, Justin Edinburgh, yn teimlo na chafodd ei dîm gyfle teg yng Nghwpan Cymru y tymor hwn.

Derbyniodd Casnewydd wahoddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i ddychwelyd i'r gystadleuaeth y tymor hwn am y tro cyntaf ers 1992,

Collodd Casnewydd yn y bedwaredd rownd ddydd Sadwrn, ond tîm dibrofiad oedd ar y maes gan fod y gêm yn cyd-daro gyda gêm y tîm cyntaf yn Uwchgynghrair Blue Square Bet yn erbyn Gateshead.

Rwy'n teimlo siom a dweud y gwir," meddai Edinburgh.

"Rydym yng Nghwpan Cymru, ond dydyn nhw ddim wedi caniatau i ni symud gemau na'u chwarae ar adeg pan y gallwn roi tîm cystadleuol ar y maes.

Hwb

Cymysgedd o chwaraewyr ieuenctid a chwaraewyr wrth gefn oedd yn cynrychioli Casnewydd yn erbyn Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn.

Roedd y tîm llawn-amser o Groesoswallt yn rhy gryf i Gasnewydd, gyda goliau gan Connall Rawlinson, Alex Darlington, Greg Draper a Craig Jones yn sicrhau buddugoliaeth gyffyrddus.

Ar yr un pryd, daeth hwb i obeithion Casnewydd o osgoi disgyn o Uwchgynghrair Blue Square Bet gyda buddugoliaeth yn Gateshead o 3-2 ar ôl bod ddwy gôl ar ei hôl hi.

Daeth Wrecsam yn ôl i Gwpan Cymru am y tro cyntaf ers 1995 y tymor hwn hefyd, ond fe gollon nhw i Airbus UK Brychdyn yn y drydedd rownd - unwaith eto roedd y gêm yn cyd-fynd â gêm gynghrair.

"Mae'n biti mawr oherwydd mae'n gystadleuaeth o bwys mawr, ac fe fyddai'n un wych i'w hennill," ychwanegodd Edinburgh.

"Yn anffodus ni chafodd Wrecsam na ninnau gyfle cyfartal, sydd yn poeni'r clwb a'r cefnogwyr."

Er gwaetha'r siom, roedd Edinburgh wrth ei fodd gyda buddugoliaeth ei dîm yn Gateshead - dim ond y drydedd fuddugoliaeth oddi cartref y tymor hwn i Gasnewydd.

Maen nhw'n dal yn y pedwar isaf ddau bwynt yn brin o ddiogelwch, ond mae ganddynt ddwy gêm wrth gefn ar eu gwrthwynebwyr agosaf.

Straeon perthnasol