Ymchwil yn awgrymu bod gyrwyr Cymru'n 'cymryd mwy o risg'
- Cyhoeddwyd

Mae gwaith ymchwil yn awgrymu nad yw un ymhob tri gyrrwr yng Nghymru yn gallu gweld yn glir, gan beryglu eu hunain ac eraill.
Cafodd y gwaith ymchwil ei gomisiynu gan arbenigwyr golwg Ultralase ac elusen diogelwch ffordd Brake, sydd nawr yn galw am wneud profion llygaid yn orfodol i bob gyrrwr.
Gyrru yn y nos, gweld ymhell a darllen arwyddion ffyrdd oedd y problemau mwya' cyffredin ymhlith y gyrwyr a holwyd.
Roedd un ymhob 10 gyrrwr yn cyfeirio at o leia' un achos o ddifrod i gerbyd neu wrthdrawiad mwy difrifol o ganlyniad i broblemau golwg.
Yn ôl y gwaith ymchwil, mae gyrwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o gymryd risg na gyrwyr yng ngweddill y DU - gydag un ymhob pump sy'n gyrru heb eu gwydrau neu lensiau yn gwneud hynny yn y tywyllwch, ac un o bob 10 yn mentro pan mae'n wlyb.
'Anghofio'
Daeth yr astudiaeth hefyd i'r casgliad fod un ymhob tri o yrwyr Cymru ddim wedi cael prawf golwg ers dros ddwy flynedd, gyda phump y cant erioed wedi profi eu llygaid.
Ymhlith y rhai oedd yn gwisgo sbectol neu lensiau yng Nghymru, roedd 20% yn cyfadde' gyrru ar bump neu fwy o achlysuron yr wythnos heb eu defnyddio, a hynny weithiau wrth gludo teithwyr eraill.
Yr esgus mwya' cyffredin oedd eu bod wedi eu hanghofio - dywedodd 40% o'r rhai a holwyd mai dyna oedd y rheswm.
Yn ôl y gwaith ymchwil, roedd un ymhob 10 gyrrwr yn cyfadde' gyrru mwy na 50 milltir ar y tro heb weld yn iawn.
Ar hyn o bryd mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn dweud bod yn rhaid i yrrwr allu darllen plât cofrestru sydd 20.5 metr (67 troedfedd) i ffwrdd mewn golau dydd.
'Hanfodol'
Dywedodd Martin Howard, llefarydd ar ran elusen Brake: "Mae'n anhygoel fod cymaint o yrwyr gyda golwg gwael yn peryglu bywydau trwy beidio â gwneud rhywbeth syml fel gwisgo sbectol neu lensiau tu ôl i'r olwyn.
"Mae sicrhau eich bod yn gweld yn iawn yn hanfodol ar gyfer gyrru diogel a chyfrifol, ac rydym wedi'n arswydo fod cymaint o bobl ddim yn ystyried hyn yn fater difrifol."
O ganlyniad i'w gwaith ymchwil, mae cwmni Ultralase nawr wedi lansio deiseb ar-lein a gweithgareddau lobïo yn galw am wneud profion llygaid yn orfodol i bob gyrrwr yn y DU.
Meddai Tony Veverka, Prif Weithredwr Ultralase: "Trwy'n partneriaeth gyda Brake, rydym wedi gweld yr effaith ofnadwy all damweiniau ffordd eu cael ar fywydau teuluoedd. Dim ond dechrau ein hymgyrch yw'r ddeiseb ar-lein.
"Wrth alw am brofion llygaid mwy trwyadl i yrwyr, rydym yn gobeithio atal y fath ddigwyddiadau ac annog pobl Prydain i gymryd eu golwg fwy o ddifri, yn enwedig wrth yrru."
Straeon perthnasol
- 28 Awst 2011
- 2 Chwefror 2009
- 23 Awst 2006