Disgwyl adroddiad o fewn mis ar ymgynghoriad organau

Cerdyn rhoddwr Image copyright bbc
Image caption Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur gwyn ym mis Tachwedd

Bydd ymgynghoriad ar gyflwyno trefn o ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau yn cael ei gyhoeddi o fewn mis.

Dyma'r cam nesa' mewn cynllun i gyflwyno system ble byddai pobl yn gorfod datgan eu gwrthwynebiad os am osgoi cael eu cynnwys yn awtomatig ar y rhestr rhoi organau.

Mae'r cyfle i'r cyhoedd leisio eu barn ar y mater yn dod i ben am hanner nos ddydd Mawrth.

Gallai adroddiad ar yr ymgynghoriad fod yn barod erbyn diwedd mis Chwefror.

Bydd mesur yn cael ei gyflwyno eleni ac yn cael ei basio yn 2013, gan baratoi'r ffordd ar gyfer y system gynta' o'i bath yn y DU.

Byddai'r drefn newydd yn dechrau yn 2015 ar ôl rhoi amser i gynnal ymgyrch wybodaeth i'r cyhoedd.

Caniatâd teuluol

O dan gynlluniau Llywodraeth Cymru, byddai organau pawb ar gael i'w rhoi ar ôl marwolaeth, os na fydden nhw wedi dewis peidio â rhoi.

O dan y drefn newydd, byddai teuluoedd yn colli'r hawl gyfreithiol i atal tynnu organau eu perthnasau marw ar gyfer eu trawsblannu ond, yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru Lesley Griffiths, allai hi ddim dychmygu sefyllfa ble byddai meddyg yn gweithredu heb ganiatâd y teulu.

Byddai'r system yn berthnasol i bobl fyddai wedi byw yng Nghymru'n ddigon hir i wybod bod angen iddyn nhw ddatgan eu gwrthwynebiad os yn briodol.

Mae'r ymgynghoriad tri mis ar y papur gwyn, oedd yn cynnwys 13 o gyfarfodydd cyhoeddus, wedi gofyn i bobl pa mor hir ddylai rhywun fyw yng Nghymru er mwyn bod yn rhan o'r system.

Fyddai'r organau ddim yn aros yng Nghymru, felly gallent gael eu defnyddio ar gyfer trawsblaniadau ar draws y DU.

'Prinder'

Dengys y ffigurau diweddara' fod 'na 27.7 fesul miliwn o bobl yn rhoi organau yng Nghymru, o'i gymharu â chyfartaledd o 16.3 fesul miliwn trwy'r DU.

Yn ôl ffigurau ar gyfer 2010, mae hyn yn gosod Cymru uwchlaw nifer o wledydd eraill yn Ewrop, gan gynnwys Ffrainc (23.8 fesul miliwn), Yr Eidal (21.6 fesul miliwn) a Gwlad Belg (20.5 fesul miliwn), sydd eisoes â systemau o ganiatâd tybiedig.

Er bod 83 o bobl wedi rhoi eu horganau yng Nghymru yn 2010 - y nifer ucha' erioed - dywed Llywodraeth Cymru fod 'na brinder yn dal i achosi marwolaethau a diodde' dianghenraid.

Dadl ymgyrchwyr yw y byddai newid y gyfraith yn cynyddu nifer yr organau fyddai ar gael ar gyfer trawsblaniadau.

Mae oddeutu 300 o bobl ar restr aros ar gyfer trawsblaniad ar unrhyw adeg a bu farw 51 o bobl yng Nghymru rhwng 2010-11 tra'n disgwyl am organ.

'Dim tystiolaeth'

Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud nad oes tystiolaeth y byddai newid yn y ddeddf yn gweithio.

Dywedodd yr Athro John Fabre, cyn lywydd y Gymdeithas Trawsblaniadau Prydain, nad y ffaith fod Sbaen wedi cyflwyno system o ganiatâd tybiedig oedd yn gyfrifol am y ffaith fod 'na gymaint o bobl yn rhoi organau yno.

"Beth sydd ganddyn nhw yw darpariaeth gofal dwys gwych, mae 'na gydlynu ardderchog o ran trawsblaniadau ac mae ganddyn nhw gysylltiadau cyhoeddus da iawn," meddai.

"Mae hynny wedi cymryd 20 mlynedd i'w gyflawni.

"Os edrychwch chi ar y dystiolaeth fod caniatâd tybiedig yn gwneud gwahaniaeth, dyw e ddim yno."

Mae'r Athro Fabre - academydd yng Ngholeg King's Llundain sy'n edrych ar organau sy'n cael eu gwrthod - ynghyd â'r Aelod Seneddol Glyn Davies wedi argymell cynnal diwrnod rhoddion a thrawsblaniadau.

Maen nhw'n dweud y byddai cyhoeddi storïau am bobl oedd wedi derbyn organau a'u teuluoedd yn annog mwy o bobl i gofrestru fel rhoddwyr.

Dywed Llywodraeth Cymru fod yr ymateb i'r ymgynghoriad wedi bod yn "galonogol iawn".

Meddai llefarydd ar eu rhan: "Ar ôl dadansoddi'r holl gyfraniadau, byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar y casgliadau."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.