Morgannwg: Lleihau dyledion
- Cyhoeddwyd
Mae clwb criced Morgannwg wedi ail-strwythuro eu trefniadau benthyca mewn ymdrech i leihau dyled.
Mae'r sefydliadau sydd wedi benthyg arian i'r clwb, gan gynnwys Allied Irish Bank, Cyngor Caerdydd a'r cyn-gadeirydd Paul Russell, wedi cytuno i'r newidiadau.
Mae Morgannwg hefyd wedi derbyn £1.3 miliwn gan naw o fuddsoddwr preifat.
Golygai'r trefniant newydd y bydd ad-daliadau dyledion y clwb yn lleihau o £300,000.
"Rydyn ni'n hapus iawn i wneud y cyhoeddiad hwn a fydd yn diogelu ein dyfodol," meddai cadeirydd y clwb, Barry O'Brien.
"Mae hwn yn dangos ffydd ein buddsoddwyr yn dilyn ein llwyddiant i ddiogelu 17 diwrnod o griced rhyngwladol dros y pum mlynedd nesaf gan gynnwys gêm brawf rhwng Lloegr ac Awstralia yng nghyfres y Lludw yn 2015.
"Gallwn edrych ymlaen at y tymor nesaf gan wybod bydd y clwb yn cynnal gêm undydd rhwng Lloegr a De Affrica a rowndiau terfynol cwpan T-20 ym mis Awst."
Yn y cyfamser, mae'r clwb wedi cyhoeddi bod David Morgan, cyn-gadeirydd y clwb a chyn-gadeirydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, wedi cytuno i dderbyn yr enwebiad i fod yn Llywydd etholedig.
Fe fydd e'n cael ei benodi am bedair blynedd, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth aelodau'r clwb yn eu cyfarfod cyffredinol blynyddol.
Straeon perthnasol
- 11 Ionawr 2012
- 12 Rhagfyr 2011
- 19 Hydref 2011
- 4 Awst 2011
- 31 Gorffennaf 2011