£1m i helpu wedi tân Fforestfach
- Cyhoeddwyd

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n cyfrannu £1m tuag at y gost o ddelio gyda thân Fforestfach a'i effeithiau.
Dywedodd y Gweinidog dros Lywodraeth Lleol a Chyllid y byddai un grant yn cael ei roi i Gyngor Abertawe fel cyfraniad tuag at yr arian a wariwyd gan yr awdurdod wrth ddelio gyda'r tân a losgodd am 21 diwrnod.
Dechreuodd y tân yn hen ffatri Mettoys yn Fforestfach ar Fehefin 16 pan losgodd o leiaf 5,000 tunnell o wastraff teiars.
Ar ôl iddi ddod i'r amlwg na fyddai modd i'r gwasanaeth tân ddiffodd y fflamau yn y ffyrdd arferol, bu'n rhaid galw am gymorth yr heddlu, Asiantaeth yr Amgylchedd, ynghyd â'r Awdurdod Iechyd a'r cyngor lleol.
Pwerau argyfwng
Y cyngor dalodd am y rhan helaeth o'r gost ac roedden nhw wedi cyflwyno bil o £1,544,784 ar ran yr holl wasanaethau fu'n rhan o'r gwaith i ddiffodd y tân.
Galwodd prif weithredwr Cyngor Dinas a Sir Abertawe gyfarfod brys ym mis Mehefin 2011 i ymateb i'r digwyddiad a chyflwynodd bwerau argyfwng i ddiogelu pobl leol.
Roedd y math hwn o ddigwyddiad yn unigryw yng Nghymru, a dim ond yr ail o'i fath yn y DU, ac roedd yn golygu fod yr asiantaethau fu'n rhan o'r gwaith yn brysur iawn dros gyfnod o bedair wythnos.
Roedd Cyngor Abertawe yn wreiddiol wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am dros £1.5m i helpu ad-dalu'r costau, o dan Gynllun Cymorth Ariannol Brys.
Straeon perthnasol
- 26 Tachwedd 2011
- 29 Awst 2011
- 23 Awst 2011