Damwain: Dyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dyn lleol 28 oed yn yr ysbyty wedi damwain ar y B4130 rhwng Brechfa a Horeb yn Sir Gaerfyrddin brynhawn Llun.
Roedd y ddamwain am 3pm a chafodd y dyn, oedd yn gyrru beic gyriant pedair olwyn, anafiadau difrifol.
Nid oedd cerbyd arall yn y ddamwain.
Cafodd yr heol ei chau am bum awr wrth i'r heddlu ymchwilio.
Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw dystion ffonio 101.