Lluniau anweddus: Dyn yn euog
- Cyhoeddwyd

Cafwyd rheolwr technoleg gwybodaeth ysgol uwchradd yn euog o gynhyrchu ac o feddu ar bron i 400,000 o ddelweddau anweddus o blant, a chyhuddiad arall o ddwyn offer cyfrifiadurol.
Roedd Jeffrey Gravell, 54 oed o Borth Tywyn, ger Llanelli, wedi gwadu cyhuddiadau'n ymwneud â'r delweddau a hefyd gyhuddiadau o ddwyn offer cyfrifiadurol.
Fe fydd y rheolwr technoleg gwybodaeth yn Ysgol Coedcae yn Llanelli yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach.
Rhybuddiodd y barnwr yn Llys y Goron Abertawe ei fod yn wynebu cyfnod o garchar.
Clywodd y llys fod 700 o'r delweddau yn y categori mwyaf difrifol.
Cafwyd Gravell yn euog o'r 44 o gyhuddiadau'n ei erbyn.
Cafwyd ei bartner, Helen Griffiths, yn ddieuog o ladrata, yr unig gyhuddiad yn ei herbyn.
Cydweithio
Clywodd y llys nad oedd Gravell wedi cyflawni unrhyw droseddau blaenorol.
Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol Coedcae eu bod wedi cydweithio'n llawn gyda'r heddlu yn ystod yr ymchwiliad.
"Does yna ddim tystiolaeth bod y delweddau yr ydym yn gwybod amdanyn nhw'n cynnwys unrhyw un o ddisgyblion Coedcae na phlant lleol," meddai'r ysgol mewn datganiad.
"Roedd y delweddau wedi eu darganfod ar gyfrifiaduron y cafwyd hyd iddyn nhw yng nghartref yr unigolyn.
"Ni chafwyd hyd i ddeunydd amhriodol ar gyfrifiaduron yn yr ysgol.
"Mae gan Goedcae systemau diogelwch i atal deunydd amhriodol rhag cael ei lawrlwytho. Does dim tystiolaeth fod y systemau wedi methu. "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012