Southampton 1-1 Caerdydd

Image copyright Not Specified

Southampton 1-1 Caerdydd

Dyma oedd prawf mwyaf Caerdydd yn y Bencampwriaeth ers tro - ymweld â chartref Southampton oedd un lle uwch eu pennau yn y tabl.

Byddai buddugoliaeth wedi codi Caerdydd uwchben y tîm cartref i'r ail safle - safle fyddai'n golygu esgyn i'r Uwchgynghrair ar ddiwedd y tymor gan osgoi'r gemau ail-gyfle sydd wedi creu cymaint o dorcalon i'r Adar Gleision yn y blynyddoedd diweddar.

Fe ddechreuodd pethau'n dda. Yn dilyn cyfnod o bwyso, Caerdydd aeth ar y blaen diolch i gynnig Craig Conway.

O dan reolaeth Nigel Adkins, cyn-reolwr Bangor yng Nghynghrair Cymru, mae Southampton wedi bod yn un i dimau mwyaf disglair y bencampwriaeth y tymor hwn.

Fe ddangoson nhw pam wedi'r egwyl wrth geisio am y fuddugoliaeth fyddai wedi eu codi yn ôl i frig y tabl.

Ond roedd angen penderfyniad dadleuol gan y dyfarnwr arnyn nhw i gael pwynt.

Roedd y penderfyniad y roi cic o'r smotyn i Southampton pan darodd croesiad Adam Lallana yn erbyn braich Kevin McNaughton yn ymddangos yn llym.

Ond doedd dim camgymeriad gan Ricky Lambert wrth iddo sgorio o'r smotyn.

Daeth un cyfle da arall i Gaerdydd, ond aeth ergyd Kenny Miller dros y trawst o 12 llath.

TABL Y BENCAMPWRIAETH

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. West Ham 28 +15 53
2. Southampton 28 +20 51
3. CAERDYDD 28 +15 50
4. Birmingham 27 +19 46
5. Hull 28 +3 46
6. Blackpool 28 +10 45