BBC Cymru Fyw

Dathlu celfyddyd y cwilt yn Llangollen

Published
image captionUn o'r artistiaid sydd yn cymryd rhan eleni yw Ferret, fydd yn mynychu'r arddangosfa bob dydd ac yn siarad gydag ymwelwyr. Dyma enghraifft o'i waith.
image captionMae'r cwiltiau ar wahanol themâu, gan gynnwys un gan Ferret sydd wedi ei seilio ar lun o nofel graffig gan Cy Dethan
image captionTra bod cwiltiau Ferret i'w gweld ym Mhafiliwn Llangollen bydd cwiltiau gan Magie Relph yn cael eu harddangos yn amgueddfa'r dref
image captionMae Magie Relph yn gweithio gyda thecstilau Affricanaidd
image captionDywedodd Susan Briscoe, un o drefnwyr yr arddangosfa, eu bod am ddangos y gall cwiltiau gael eu hystyried yn gelfyddyd.
image captionYn ogystal â gwaith y brif arddangoswyr mae gwaith nifer o gwiltwyr eraill i'w gweld yn yr arddangosfa yn Llangollen