BBC Cymru Fyw

A470 yn ail agor wedi gwrthdrawiad

Published
image copyrightbbc
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw oherwydd gwrthdrawiad ar y A470 brynhawn Mercher.
Fe gafodd y Gwasanaeth Tân ei alw am 1:17pm wedi i gar a lori fod mewn gwrthdrawiad rhwng Aberhonddu a Libanus.
Fe wnaeth criw o Aberhonddu ryddhau dau berson oedd yn sownd yn eu cerbydau.
Am gyfnod roedd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A40/B4601 (Aberhonddu) a'r A4215 (Libanus).
Does dim manylion am anafiadau.