Cloc yn nodi ymweliad y Brifwyl
- Cyhoeddwyd

I nodi chwe mis tan ddechrau'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg ar Awst 4 mae cloc cyfri nôl wedi ei osod ar wefan y cyngor sir.
Mae'r Eisteddfod yn ymweld â'r ardal am y tro cyntaf er 1968.
Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg mae'r cloc yno i atgoffa pobl bod ganddyn nhw amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau i godi arian ar gyfer y digwyddiad yn Llandŵ.
Mae disgwyl i'r ŵyl groesawu hyd at 165,000 o ymwelwyr.
Bydd y cloc wedi ei rannu'n fisoedd, diwrnodau, oriau a munudau.
'Paratoadau'n prysuro'
Dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Gordon Kemp: "Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ŵyl ddiwylliannol bwysig yn rhyngwladol, ac mae'n dathlu nid yn unig elfennau cryfaf Cymru, ond fe fydd hefyd yn denu nifer fawr o ymwelwyr i Fro Morgannwg.
"Bydd y cloc cyfri'n ôl yn adlewyrchu'r cynnydd yn y cyffro pan fydd cyfnod yr Eisteddfod yn dod yn nes, a'r paratoadau'n prysuro.
"Mae hwn yn gyfle gwych i gynyddu proffil y Fro, yn enwedig i'r trefi sydd agosaf at Landŵ, sef Y Bont-faen a Llanilltud Fawr."
Mae tudalennau'r Eisteddfod ar wefan Cyngor Bro Morgannwg yn cynnwys gwybodaeth am y Brifwyl a'i chystadlaethau yn ogystal â'r newyddion diweddaraf.
Straeon perthnasol
- 25 Mehefin 2011
- 18 Ionawr 2012