Nikitta: Tystiolaeth camera

  • Cyhoeddwyd
Nikitta GrenderFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Nikitta Grender bythefnos cyn yr oedd i fod i roi genedigaeth

Mae arbenigwr wedi rhoi tystiolaeth yn achos dyn o Gasnewydd ar gyhuddiad o lofruddio menyw feichiog.

Bu farw Nikitta Grender, 19 oed, ym mis Chwefror y llynedd, bythefnos cyn yr oedd i fod i roi genedigaeth i ferch fach.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd dystiolaeth Matthew Cass, arbenigwr adnabod cerbydau ddywedodd ei fod wedi adnabod car Ford Focus y diffynnydd.

Daeth diffoddwyr o hyd i gorff Ms Grender yn ei fflat yn Llysweri, Casnewydd, tua 8am Chwefror 5, 2011.

Dangosodd archwiliad post mortem ei bod wedi ei thrywanu ddwywaith, unwaith yn ei gwddf ac unwaith yn ei stumog, cyn i'r fflat gael ei rhoi ar dân.

Gwadu

Mae Carl Whant, 27 oed, yn gwadu llofruddiaeth, treisio, cynnau tân yn fwriadol a dinistrio plentyn.

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi gadael parti gyda chariad Miss Grender a'i gefnder Ryan Mayes.

Roedd wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi gyrru'n ôl i dŷ ei fam-gu er mwyn nôl mwy o sigaréts.

Dywedodd y diffynnydd, sy'n cyfaddef ei fod wedi bod yn cymryd cocên, ei fod wedi cymryd mwy o amser wrth fynd adref rhag ofn y byddai'r heddlu yn ei stopio.

Ford Focus

Fe welodd y rheithgor glipiau ffilm camerâu cylch cyfyng o du allan i Orsaf Heddlu Maendy, tafarn y Godfrey Arms a siop bapurau newydd ar Stryd Prince.

Dywedodd Mr Cass, swyddog Labordy Ymchwil i Drafnidiaeth, ei fod yn credu mai car Ford Focus o liw ysgafn oedd ar y ffilm.

Eisoes clywodd y llys fod y diffynnydd yn berchen ar Ford Focus lliw arian - a bod gwaed yn cyfateb i DNA Miss Grender y tu mewn i'r cerbyd.

Ym mis Mehefin trefnodd yr heddlu dri ail-gread a gyrrodd pump o geir heibio camerâu'r orsaf heddlu, y dafarn a'r siop.

Nam ar y golau

Car y diffynnydd oedd un ohonyn nhw.

Ar ôl astudio'r ffilm roedd Mr Cass, yn ôl yr heddlu, wedi dweud mai car Mr Whant oedd yr un fel yr un yn y lluniau gwreiddiol.

Dywedodd yr arbenigwr fod modd adnabod y car oherwydd nam ar y golau uwchben y rhif cofrestru ar gefn y car.

Roedd lleoliad y ddisg treth a siâp y ffenest hefyd yn debyg, meddai.

"Fy marn i yw mai'r un car sy yn y ffilm camera cylch cyfyng a'r ail-gread - car arian, Ford Focus marc 1."