Pryder am gynllun i gau Ysgol Coed Menai
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i gau ysgol i blant gydag anghenion arbennig yn cael eu trafod gan Gyngor Gwynedd ddydd Iau.
Mae Ysgol Coed Menai - Ysgol Treborth gynt - ym Mangor yn ysgol arbennig ddwyieithog sy'n darparu addysg yn ddyddiol ar gyfer disgyblion rhwng 9-16 oed.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi datblygu cynlluniau i gefnogi'r myfyrwyr mewn ysgolion lleol, ac mewn unedau newydd llai.
Ond mae cyn brifathro wedi beirniadu'r cynlluniau gan ddweud y bydd addysg y disgyblion yn dioddef.
'Torcalon a thristwch'
Dywedodd Wil Parry Williams y dylai Ysgol Coed Menai aros ar agor, a mynd yn ôl i fod yn ganolfan breswyl.
"Teimlais gymysgwch o siom, torcalon a thristwch pan glywais y byddai'r lle yn cau, a dwi'n teimlo eu bod wedi gadael i'r lle ddirywio," meddai wrth Rhaglen BBC Radio Cymru, Taro'r Post.
Dywedodd bod plant gydag anghenion cronig angen gofal preswyl i ddatblygu yn iawn gan fod hynny'n darparu amgylchiadau sefydlog nad oedd ar gael yn aml mewn tai.
"Mae'r penderfyniad i gau yn un anghywir, ac fe all arwain at blant sydd â phroblemau ymddygiad difrifol yn gorfod cael lle mewn ysgolion preifat, a fydd yn ddrud".
'Cefnogaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Yn ddiweddar mae Adran Addysg y Cyngor wedi mabwysiadu strategaeth cynhwysiad sirol er mwyn gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i'r nifer bychan hynny o ddisgyblion uwchradd Gwynedd sydd â phroblemau ymddygiad.
"Bydd y gwelliannau fydd yn cael eu cyflwyno yn sicrhau gwell cefnogaeth i'r disgyblion hyn yn eu hysgol leol.
"Yn ogystal, bydd uned arbenigol newydd yn cael ei sefydlu erbyn Medi 2012 ar gyfer y nifer bychan hynny o ddisgyblion sydd â phroblemau emosiynol ac ymddygiad dwys.
"Ar hyn o bryd, mae 24 o ddisgyblion sydd angen cymorth dwys yn mynychu Ysgol Coed Menai gyda deg o'r disgyblion hyn yn dod o Wynedd.
"Rydym yn rhagweld mai dim ond pedwar o'r disgyblion hyn fydd angen cymorth addysgol ar gyfer problemau emosiynol neu ymddygiad dwys o fis Medi 2012.
Adroddiad
"Mae'r 14 o ddisgyblion sy'n weddill yn dod o Gonwy a Môn, ac mae Adrannau Addysg y ddau gyngor wedi cadarnhau na fyddant yn anfon disgyblion i Ysgol Coed Menai o fis Medi ymlaen.
"Bydd adroddiad ar ddyfodol Ysgol Coed Menai yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor ar Chwefror 2.
"Mae'r adroddiad sy'n nodi pryderon am gyflwr ac addasrwydd yr adeilad yn argymell cychwyn proses ffurfiol o ymgynghoriad statudol ar gau'r ysgol.
"Bydd yr adroddiad wedyn yn cael ei ystyried gan Fwrdd y Cyngor am benderfyniad."