Damwain: Menyw wedi marw
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddamwain am 6.40pm nos Fercher
Mae'r heddlu wedi dweud bod menyw leol yn ei dauddegau wedi marw mewn damwain ffordd nos Fercher.
Roedd gwrthdrawiad rhwng Ford Mondeo du a Daewoo Matiz arian am 6.40pm ar yr A470 bedair milltir o Langurig.
Cyhoeddwyd bod y fenyw, oedd yn gyrru'r Matiz, yn farw yn y fan a 'r lle.
"Rydyn ni'n gobeithio clywed oddi wrth unrhywun welodd y ddau gerbyd neu'r ddamwain," meddai'r Arolygydd Mark Davies.
"Dylai unrhywun ffonio Gorsaf Heddlu'r Drenewydd ar 101."