Marwolaeth: Comisiwn yn ymchwilio

Kyle Griffith Image copyright Other
Image caption Roedd Kyle Griffith yn 25 oed

Bydd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd cyn marwolaeth Kyle Griffiths yng Nghaerdydd.

Yn benodol, byddan nhw'n ymchwilio i'r modd yr oedd cerbyd heddlu yn cwrso car arall cyn y digwyddiad.

Bu farw Mr Griffiths, 25 oed o ardal Thornhill yn oriau mân Ionawr 10.

Yn ôl y comisiwn, fe roddodd dau blismon mewn car signal i gar glas Fiat Cinquecento stopio yn Heol Penarth tau 2.50am.

Pan na ddigwyddodd hynny, fe gwrsodd car yr heddlu y Fiat drwy ganol Caerdydd i Fae Caerdydd.

Yno tarodd y Fiat Mr Griffiths yn Stryd James.

Pwyslais

Aed ag e i Ysbyty Athrofaol Cymru ond cyhoeddwyd yno ei fod wedi marw.

Dywedodd Tom Davies, Comisiynydd Cymru, ei fod yn cydymdeimlo'n fawr â theulu a chyfeillion Mr Griffiths.

"Bydd yr ymchwiliad yn rhoi pwyslais ar y modd y cafodd y sefyllfa ei rheoli - gan gynnwys y broses benderfynu yn yr ystafell reoli.

"Fe fydd yr heddlu yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Mr Griffiths.

"Maen nhw wedi arestio a chyhuddo dyn 22 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth a bydd yr ymchwiliad troseddol yn cael blaenoriaeth."

-

Straeon perthnasol