Cyfle i gyfnewid crys pêl-droed

Crys Lerpwl Image copyright AFP
Image caption Bydd cefnogwyr sy'n ildio crys Lerpwl yn derbyn £12 at brynu crys Caerdydd

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi "amnest" crysau er mwyn annog pobl i gyfnewid crysau Lerpwl am rai'r Adar Gleision.

Mae Caerdydd am i gefnogwyr Lerpwl sy'n byw yn Ne Cymru droi at eu tîm lleol cyn i'r ddau gwrdd yn rownd derfynol Cwpan Carling ar Chwefror 26.

Bydd cefnogwyr sy'n ildio crysau Lerpwl yn cael £12 o ostyngiad wrth brynu crys Caerdydd.

Bydd y crysau coch wedyn yn cael eu rhoi i elusennau plant yn ninas Lerpwl.

Mewn datganiad dywedodd y clwb: "Mae Caerdydd wedi cael cefnogaeth wych yn lleol ac rydym yn falch o nifer y cefnogwyr sy'n cynyddu bob blwyddyn.

"Mae crysau'r clwb i'w gweld yn amlach y dyddiau hyn mewn gemau 5-bob-ochr ac mewn ysgolion ac mae'n wych gweld hynny.

"Rydym yn rhoi'r cyfle i nifer o gefnogwyr Lerpwl sy'n byw yn Ne Cymru gefnogi eu clwb lleol drwy gefnogi'r Adar Gleision yn y rownd derfynol a thu hwnt.

"Mae'r ymgyrch yn amlwg. Trowch Caerdydd yn las drwy bersawadio'ch ffrindiau sy'n cefnogi Lerpwl i droi'r teledu i ffwrdd - mae'r cyffro go iawn o fewn eich milltir sgwâr."

Ail dro

Dywedodd y clwb y byddai'r "amnest" yn digwydd yn siop y clwb ac y byddai'n derbyn crysau tymor 2011-12 yn unig.

Dyma'r ail dro i'r clwb drefnu ymgyrch debyg.

Yn fuan wedi iddo gymryd awenau'r clwb yn 2000 fe gynigiodd Sam Hammam gyfnewid crysau Lloegr am grysau Caerdydd.

Ei gynllun gwreiddiol oedd llosgi crysau Lloegr ond wedi beirniadaeth fe newidiodd ei feddwl a'u rhoi i elusen.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.