Ffrwydrad mewn tŷ ym Morfa Bychan

Mae dyn yn cael triniaeth yn yr ysbyty am losgiadau ar ôl ffrwydrad mewn byngalo ym Morfa Bychan, ger Porthmadog yng Ngwynedd.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Ystâd Ffridd am 5.20pm ddydd Iau.

Credir mai nwy botel oedd yn gyfrifol am y ffrwydrad wnaeth ddinistrio rhan o'r adeilad.

Aed a'r dyn i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans fod gan y dyn fân anafiadau i'w wyneb a'i ddwylo.

Cafodd dau griw achub eu hanfon, o Borthmadog a Blaenau Ffestiniog.

Hefyd anfonwyd tîm achub technegol o Gaernarfon.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos y ffrwydrad.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.