Bangor ar frig Uwchgynghrair Cymru
- Published
Cafodd nifer o gemau eu gohirio dros y Sul yn sgil y tywydd oer ond fe gafodd ddwy gêm eu cynnal brynhawn dydd Sadwrn pan groesawodd Bangor Brestatyn i Nantporth a heriodd Y Seintiau Newydd Gastell-nedd.
Llwyddodd Castell-nedd i guro'r Seintiau o ddwy gôl i un yn Y Dreflan.
Y tîm cartref sgoriodd gôl gynta'r ornest pan rwydodd Greg Draper i'r Seintiau Newydd wedi tair munud o'r ail hanner.
Ond fe ddaeth Castell-nedd yn gyfartal pum munud yn ddiweddarach pan rwydodd Lee Trundle.
Maes newydd
Cipiodd yr ymwelwyr y tri phwynt pan sgoriodd Jack Lewis wedi 61 munud.
Roedd yna amheuaeth am y gêm rhwng Bangor a Phrestatyn yn Nantporth ond aeth y gêm yn ei blaen yn dilyn archwiliad o'r cae yn ystod y bore.
Hon oedd gêm gynghrair gyntaf y clwb ar y maes newydd.
Yr ymwelyr sgoriodd gôl gynta'r gêm pan rwydodd Gibson wedi 21 munud ond fe ddaeth Bangor yn gyfartal 16 munud yn ddiweddarach pan sgoriodd Wilson.
Cipiodd Bangor y pwyntiau pan rwydodd Davies wedi 11 munud o'r ail hanner.
CANLYNIADAU
Nos Wener
Lido Afan v Aberystwyth - Gohiriwyd
Dydd Sadwrn
Bala v Llanelli - Gohiriwyd
Y Drenewydd v Caerfyrddin - Gohiriwyd
Seintiau Newydd 1 Castell-nedd 2
Bangor 1-1 Prestatyn - Hanner amser
Dydd Sul
Airbus UK Brychdyn v. Port Talbot - Gohiriwyd
TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU
Chwefror 4 2012