WBA 1- 2 Abertawe

Image copyright Other
Image caption Sgorodd Danny Graham ail gôl Abertawe

WBA 1-2 Abertawe

Wedi gêm gyfartal yn erbyn Chelsea yn eu gêm ddiwethaf yn Stadiwm Liberty, roedd yr Elyrch yn llawn hyder wrth iddynt deithio i herio West Bromwich Albion ddydd Sadwrn.

Ac ni chafodd eu dilynwyr eu siomi wrth i Abertawe gyflawni dim ond eu hail fuddugoliaeth oddi cartref yn yr Uwchgynghrair y tymor hwn.

Aeth WBA ar y blaen wedi naw munud o'r ail hanner pan rwydodd Marc-Antoine Fortune yn dilyn cic gornel.

Ond daeth Abertawe yn gyfartal funud yn ddiweddarach pan sgoriodd Gylfi Sigurdsson yn dilyn croesiad gan Neil Taylor.

Norwich

Ac aeth yr Elyrch ar y blaen pedwar munud wedi hynny pan rwydodd Danny Graham yn dilyn pas gwych gan Sigurdsson

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn dringo i'r 10fed safle yn yr Uwchgynghrair.

Bydd gêm nesaf yr Elyrch yn yr Uwchgynghrair ddydd Sadwrn nesaf pan fyddan nhw'n croesawi Norwich i Stadiwm Liberty.

WBA 1: Marc-Antoine Fortune 53'

Abertawe 2 : Gylfi Sigurdsson 54', Danny Graham 58'

WBA: Foster, Olsson, Reid, Shorey, McAuley, Morrison, Thomas, Dorrans, Mulumbu (Scharner), Odemwingie , Fortune

Eilyddion: Fulop, Ridgwell, Jones, Tchoyi, Andrews, Scharner, Cox.

Abertawe:Vorm, Williams, Taylor, Caulker, Rangel, Britton, Allen, Sigurdsson, Graham, Sinclair, Dyer.

Eilyddion:Tremmel, Monk, Routledge, McEachran, Lita, Moore.

Tabl yr Uwchgynghrair

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man City 23 +41 54
2. Man United 23 +35 54
3. Tottenham 23 +19 49
4. Chelsea 23 +15 42
-----------------------------------------------------------------------------------------
14. ABERTAWE 24 -3 30

17:15 Chwefror 5, 2012.