Caerdydd 1-3 Blackpool

Image copyright Not Specified

Caerdydd 1-3 Blackpool

Cafodd Caerdydd ddechrau gwael i fis bach wrth iddynt golli yn Stadiwm Caerdydd i un o geffylau blaen eraill yr adran, Blackpool.

Sgoriodd asgellwr Blackpool Matt Phillips ddwy gôl hwyr i ennill y pwyntiau i'r ymwelwyr.

Caerdydd sgoriodd gôl gynta'r gêm ar ôl 59 munud o'r ornest pan rwydodd Joe Mason am y seithfed tro'r tymor hwn yn dilyn pas gan Don Cowie.

Daeth Blackpool yn gyfartal pan sgoriodd Kevin Phillips ag ergyd gywrain wedi 79 munud.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen pedair munud yn ddiweddarach pan rwydodd Matt Phillips o ochr y cwrt cosbi a chyflawnodd Blackpool fuddugoliaeth haeddiannol pan rwydodd Phillips unwaith eto yn y funud olaf.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn aros yn y trydydd safle.

Fe fydd gêm nesaf yr Adar Gleision yn y Bencampwriaeth oddi cartref yn erbyn Caerlŷr ddydd Sadwrn nesaf.

Caerdydd 1: Joe Mason 59'

Blackpool 3: Kevin Phillips 79', Matt Phillips 83', 90'

Caerdydd: Marshall, McNaughton, Taylor, Gerrard, Turner, Whittingham, Cowie, Conway, Gunnarson, Ralls (Mason 46), Miller

Eilyddion:Heaton , Blake, Gestede, Harris, Mason

Blackpool:Gilks, Crainey, Baptiste, Basham, Cathcart, Wilson, Ferguson, M Phillips, Fleck, Taylor-Fletcher, Dicko (K Phillips 66)

Eilyddion: Eardley. K Phillips,Bednar, Ince, LuaLua

TABL Y BENCAMPWRIAETH

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. West Ham 29 +16 56
2. Southampton 28 +20 51
3. CAERDYDD 29 +13 50
4. Blackpool 29 +12 48
5. Middlesboro' 29 +3 47
6. Birmingham 27 +19 46