Lydiate: Siom i Gymru?

Dan Lydiate Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Dan Lydiate yn debygol o fethu gêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf.

Ond mae newyddion da i Gymru gan fod disgwyl i Jamie Roberts a Rhys Priestland fod yn ffit i chwarae yn erbyn Iwerddon yn Nulyn.

Y disgwyl yw mai Ryan Jones fydd yn cael ei enwi yn y tîm pan fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Dyw Roberts heb chwarae ers Rhagfyr 23, ond mae'r hyfforddwr Warren Gatland yn credu ei fod wedi gwella'n ddigonol o anaf i'w ben-glin.

Credir y bydd Priestland, sydd hefyd wedi dioddef gyda'i ben-glin, yn holliach er nad yw wedi ymarfer yn llawn gyda'r garfan.

Fe wnaeth Gatland oedi tan ddydd gwener cyn enwi ei dîm er mwyn rhoi'r cyfle gorau i bawb wella.

Hyd yn oed os fydd Roberts a Priestland yn chwarae, fe fydd y tîm yn un gwahanol iawn i'r un a gurodd Iwerddon yn ystod Cwpan y Byd ym mis Hydref y llynedd.

Ynghyd â Lydiate, bydd Gethin Jenkins (pen-glin), Alun Wyn-Jones (bawd ei droed) a Luke Charteris (garddwrn) ar goll oherwydd anafiadau ac mae Shane Williams wedi ymddeol o rygbi ryngwladol.

Mae dyfalu y bydd Alex Cuthbert yn llenwi'r bwlch ar yr asgell, ond gan fod Lee Byrne wedi bod yn chwarae'n dda i'w glwb Clermont Auvergne, fe allai yntau ddechrau fel cefnwr gyda Leigh Halfpenny yn symud i'r asgell.

Bydd Gatland hefyd heb Matthew Rees a fethodd Cwpan y Byd oherwydd anaf i'w wddf gan fod yntau bellach yn dioddef gydag anaf i'w goes.

Fe allai Huw Bennett, a ddisgleiriodd yn Seland Newydd, ennill ei hanner canfed cap fel bachwr.

CARFAN CYMRU I'R CHWE GWLAD

Olwyr: Mike Phillips (Bayonne), Lloyd Williams (Gleision), Rhys Webb (Gweilch), Rhys Priestland (Scarlets), James Hook (Perpignan), Jamie Roberts (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Scott Williams (Scarlets), Gavin Henson (Gleision), Ashley Beck (Gweilch), George North (Scarlets), Leigh Halfpenny (Gleision), Alex Cuthbert (Gleision), Harry Robinson (Gleision), Liam Williams (Scarlets), Lee Byrne (Clermont Auvergne)

Blaenwyr: Craig Mitchell (Exeter Chiefs), Adam Jones (Gweilch), Ryan Bevington (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Paul James (Gweilch), Rhys Gill (Saracens), Rhodri Jones (Scarlets), Matthew Rees (Scarlets), Huw Bennett (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Bradley Davies (Gleision), Ian Evans (Gweilch), Lou Reed (Scarlets), Ryan Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), Sam Warburton (capten, Gleision), Justin Tipuric (Gweilch), Toby Faletau (Dreigiau), Andy Powell (Sale Sharks).

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.