Pedwar bragdy yn ymuno i ailagor tafarn
- Published
Mae pedwar bragdy bach wedi dod at ei gilydd i ail-agor tafarn sy'n dyddio'n ôl i'r 1920au yng Nghonwy.
Gwariwyd tua £100,000 ar adfer tafarn yr Albion i'r hyn oedd tua 90 mlynedd yn ôl.
Arthur Ellis, dyn busnes Cymraeg sy'n byw yn Llundain, wnaeth brynu'r adeilad y llynedd a'i syniad ef oedd ei adfer i'w hen ogoniant.
Dywedodd y pedwar bragdy o ogledd Cymru eu bod yn rhy fach i ystyried agor tafarn yn unigol, ond gyda'i gilydd mae'n fan delfrydol i werthu eu cwrw.
Mae gan y dafarn bedwar pwmp llaw ar y bar, un i bob cwrw, yn ogystal ag un ar gyfer cwrw gwadd ac un ar gyfer seidr.
Pan brynodd Mr Ellis y bragdy am £95,000 fe e-bostiodd dau fragdy lleol - Bragdy'r Gogarth a Bragdy Conwy, yn ogystal â Bragdy Nant yn Llanrwst a Bragdy Mŵs Piws ym Mhorthmadog.
'Unigryw'
Meddai Jonathan Hughes, cyfarwyddwr Bragdy'r Gogarth: "Dwi'n wirioneddol gredu ei bod yn unigryw yn y DU.
"Nid wyf wedi dod ar draws unrhyw sôn am bedwar bragdy cystadleuol yn gweithio efo'i gilydd i agor tafarn."
Meddai Ian Saunders o'r Campaign For Real Ale: "Dyddiau hyn mae tafarndai yn moderneiddio ac yn ceisio gwneud i'w hadeiladau edrych yn fodern.
"Ond gyda'r Albion maent wedi mynd yn ôl mewn amser a cheisio ail-greu sut y byddai wedi edrych yn y 1920au.
"Mae peth o'r gwaith yn wych - maent wedi dadorchuddio trawstiau oedd wedi cael eu paentio'n ddu, wedi farneisio'r lloriau pren a wedi sgleinio'r bar.
"Dwi'n gobeithio bydd yn fuddiol i Gonwy, i'r bragdai ac i bobl sy'n yfed cwrw hefyd."
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Awst 2011
- Published
- 16 Gorffennaf 2011