Cwmni ailgylchu'n diswyddo 27
- Published
Mae 27 o bobl wedi colli eu swyddi wedi i gwmni ailgylchu fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Mae'r gweinyddwyr, Begbies Traynor, yn ceisio dod o hyd i brynwr i gwmni Plastic Sorting o Bontllanfraith, Caerffili.
Roedd y cwmni ym Mharc Busnes y Coed Duon yn cyflogi 30 ac mae tri wedi cael eu cadw yno i gynghori'r gweinyddwyr.
Roedd y busnes yn fenter gymdeithasol gyda'r sector preifat a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r Charity Bank.
'Strategol'
Pan gafodd ei agor fe'i disgrifiwyd fel "buddsoddiad strategol yn y gadwyn gyflenwi plastig i Gymru, Gorllewin Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr".
Roedd yn prynu poteli plastig gwag cyn eu didoli, eu golchi a'u chwalu er mwyn eu gwerthu i'r diwydiant plastig.
Dywedodd David Hill o'r cwmni: "Rydym yn parhau i fasnachu wrth i ni gynnal adolygiad o'i weithredoedd ac yn gobeithio dod o hyd i rywun i brynu'r busnes."
Mae gan gwmnïau tan ddiwedd dydd Llun, Chwefror 6, i gofrestru diddordeb gyda Begbies Traynor.