Castell Dinbych i ail agor erbyn y Pasg

Castell Dinbych Image copyright Other
Image caption Bydd y castell yn ailagor yn Ebrill 2012

Fydd castell o'r 13eg ganrif, sydd wedi bod ynghau i'r cyhoedd ers chwe mis ar gyfer gwaith adnewyddu gwerth £600,000, ddim yn ailagor tan y Pasg.

Pan ddechreuwyd y gwaith adnewyddu ym mis Gorffennaf y llynedd, y bwriad oedd ailagor Castell Dinbych ar Chwefror 6.

Ond yn ôl Cadw - gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru - fe fydd y castell nawr yn agor ddechrau mis Ebrill.

Fe fydd canolfan ymwelwyr newydd yn cael ei chodi yng Nghastell Dinbych, ac fe fydd llwybrau cerdded arbennig yn cael eu hagor o amgylch y castell.

Dywedodd llefarydd ar ran Cadw: "Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu yng Nghastell Dinbych gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror, fel y dyddiad cwblhau gwreiddiol, pan fydd gwaith ar yr arddangosfa a dehongliad newydd yn dechrau yn y ganolfan ymwelwyr.

"Mae disgwyl i'r Castell fod yn agored eto erbyn y Pasg."

Mae Cadw - gwasanaeth henebion Llywodraeth Cymru - wedi buddsoddi arian o'r gronfa Ewropeaidd i dwristiaeth treftadaeth ar gyfer y cynllun hwn.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.