Meithrin: Gohirio dedfryd
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr wedi gohirio dedfryd yn achos menyw 37 oed ddygodd £8,436 oddi wrth gylch meithrin yng Nghaerdydd.
Yn Llys Ynadon Caerdydd dywedodd y Barnwr Rhanbarthol John Charles wrth Suzy Barrett o'r Tyllgoed y byddai ei dedfryd yn dibynnu ar ei hymdrech i ddigolledu'r cylch.
Clywodd y llys ei bod hi wedi dwyn yr arian pen oedd yn Drysorydd Cylch Meithrin Pentre-baen rhwng Ionawr 2010 a Gorffennaf 2011.
Eisoes mae hi wedi ad-dalu £3400.