Chwilio am reolwr i fwynglawdd aur
- Cyhoeddwyd

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn edrych am reolwr newydd ar gyfer mwynglawdd aur.
Mae pobl wedi bod yn chwilio am aur yn ardal Dyffryn Cothi yn Sir Gaerfyrddin ers amser y Rhufeiniaid.
Fe gaeodd y mwynglawdd olaf i gloddio am aur yn y 1930au.
Ond yn ôl y gyfraith mae'n rhaid bod yna reolwr ar y pwll.
Y dasg fydd yn wynebu'r person llwyddiannus fydd i warchod a goruchwylio'r safle tra hefyd yn ei ddatblygu fel atynfa i dwristiaid.
Dywedodd Jacqui Kedward, rheolwr eiddo'r Ymddiriedolaeth yn Sir Gaerfyrddin: "Fe gaeodd y pwll yn 1938.
"Roedd yna aur yno o hyd, ond roedd y gost o'i gloddio yn rhy ddrud.
"Mae'r Ymddiriedolaeth wedi gwarchod y safle oherwydd ei bwysigrwydd archeolegol - mae yna dal olion o oes y Rhufeiniaid."
Erbyn heddiw mae'r Ymddiriedolaeth yn tywys twristiaid a disgyblion ysgol dan ddaear.
Mae'r rheolwr presennol yn symud ar ôl bod yn y swydd am chwe blynedd.
"Mae'n swydd unigryw sydd ddim yn cael ei hysbysebu'n aml iawn," meddai Mrs Kedward.
"Mae'r Ymddiriedolaeth wedi gwarchod y safle oherwydd ei bwysigrwydd archeolegol - mae yna dal olion o oed y Rhufeiniaid."
Erbyn heddiw mae'r Ymddiriedolaeth yn tywys twristiaid a disgyblion ysgol dan ddaear.
Mae'r rheolwr presennol yn symud ar ôl chwe blynedd.
"Mae'n swydd unigryw sydd ddim yn cael ei hysbysebu'n aml iawn," meddai Mrs Kedward.