Tywydd garw yn creu trafferthion
- Cyhoeddwyd

Mae'n edrych yn debyg y bydd yr eira sydd wedi disgyn mewn rhannau o Gymru ddydd Sadwrn yn troi yn law yn ddiweddarach.
Gydag aer mwy mwyn o'r gorllewin, mae disgwyl i'r tymheredd godi ychydig.
Ond mae'r tywydd oer wedi creu trafferthion i deithwyr ac ar y meysydd pêl-droed a rygbi.
Bu'n rhaid i aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru dynnu car i fyny arglawdd efo winsh yn Ystradgynlais, Powys brynhawn ddydd Sadwrn.
Ni chafodd y ddau o bobl oedd y tu mewn i'r car ei niweidio.
Ddydd Gwener cafodd y gêm rhwng y Dreigiau a Saraseniaid yng nghwpan LV ei gohirio.
Ffos Las
Cafodd gemau Uwchgynghrair Cymru yng Nghaerdydd, Pontypridd a Thonmawr eu gohirio ddydd Sadwrn.
Hefyd cafodd gemau Uwchgynghrair Pêl Droed Cymru yn Y Bala a'r Drenewydd eu gohirio yn ogystal â'r gêm Tlws FA rhwng Casnewydd a Carshalton.
Cafodd yr ornest rhwng Lido Afan ac Aberystwyth ei ohirio nos Wener.
Yn y gogledd bu yna amheuaeth am y gêm bêl-droed rhwng Bangor a Phrestatyn yn Nantporth.
Bu ddau archwiliad o'r cae cyn i'r dyfarnwr ganiatau i'r gêm gael ei chynnal.
Hon oedd y gêm gynghrair gyntaf y clwb ar y maes newydd.
Dywedodd swyddogion y bydd angen i'r tymheredd godi rhywfaint a bydd archwiliad o'r cae cyn gwneud penderfyniad.
"Mae'r cae ychydig yn galed - ond rydym 95% yn sicr y gallwn chwarae pe bai hi'n meirioli rhyw ychydig," meddai llefarydd ar ran y clwb.
Yn sir Gaerfyrddin cafodd cyfarfod rasys ceffylau yn Ffoslas ei ohirio wedi i brofion gael eu cynnal fore Sadwrn.
"Gwnaethom ystyried cynnal y rasyss ddydd Sul ond yn dilyn trafodaethau penderfynwyd nad oedd hyn yn ymarferol," meddai llefarydd ar ran y cwrs.
Rhybudd melyn
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mai posibilrwydd y bydd rhwng 2- 5cm o eira mewn manau, yn enwedig ar y tir uchel.
Roedd rhybudd melyn ("byddwch yn barod") mewn grym ar gyfer Cymru ddydd Sadwrn.
Dywed y Swyddfa Dywydd fod rhagolygon yn dangos glaw yn symud i'r dwyrain yn ystod y dydd ac i'r gogledd orllewin yn ddiweddarach.
Disgynnodd eira ar rannau o dde Powys, Ynysybwl, Cil-y-coed, Llanilltud Fawr, Glyn Ebwy ac ar hyd y gororau fore Sadwrn.
Yn ôl Sue Charles, cyflwynydd tywydd BBC Cymru mae eira trwm yn edrych yn llai tebygol ddydd Sul.
"Bydd hi'n bwrw glaw nos Sadwrn ac mae risg o ia ddydd Sul."
Mae prif swyddog meddygol Cymru Dr Tony Jewell yn annog pobl i gymryd gofal.
"Mae'n bwysig fod pobl yn gwisgo'n iawn ac yn cadw eu tai yn gynnes er mwyn lleihau unrhyw broblemau iechyd.
"Mae yfed diodydd poeth hefyd yn help."