Llofruddiaeth: Dyn yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i gorff Roy Sly yn ei fflat
Dyn 37 oed o Ferthyr Tudful yw'r trydydd person i gael ei gyhuddo o lofruddio dyn a gafwyd hyd iddo yn ei fflat yn Swydd Essex.
Cafwyd hyd i gorff Roy Sly, 53 oed, yn ei gartref yn Westcliff ar Ionawr 10.
Cafodd y dyn ei arestio yn ardal Southend ddydd Gwener.
Disgwylir iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Southend yn ddiweddarach.
Y disgwyl yw i ddyn a menyw sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio Mr Sly yn ymddangos gerbron Llys y Goron Chelmsford ym mis Ebrill.
Nid oedd modd sefydlu achos marwolaeth Mr Sly mewn archwiliad post mortem ac mae rhagor o brofion yn cael eu cynnal i sefydlu achos ei farwolaeth.