Datblygwyr yn addo £2.3m i gynghorau

Swyddfeydd Dinesig Cyngor Bro Morgannwg Image copyright BBC news grab
Image caption Dywed Cyngor Bro Morgannwg eu bod "yn cynnal adolygiad llawn" o'u holl gytundebau

Mae datblygwyr preifat yn addo arian i dros hanner cynghorau sir Cymru, a hwnnw'n arian ddylai fod yn cael ei wario ar gyfleusterau cymunedol.

Yn dilyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, canfu BBC Cymru bod bron i £2.3 miliwn yn ddyledus i awdurdodau lleol Cymru ym mis Rhagfyr 2011.

Yn ôl bob tebyg, roedd 'na saith o awdurdodau lleol nad oedd yn cadw golwg ar y swm oedd yn ddyledus iddynt dan gymalau cytundebau cynllunio.

Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau'n dal i fod yn "gadarn" o ran casglu'r arian sy'n ddyledus iddynt yn ystod "cyfnod anodd dros ben".

Cynnal a chadw

Mae'r arian yn ddyledus dan gytundebau 'Adran 106' - cymalau mewn dogfennau caniatâd cynllunio sydd wedi'u cynnwys i liniaru effaith datblygiadau ar yr ardal leol.

Fe'u defnyddir yn aml i sicrhau bod arian ar gael ar gyfer ffyrdd newydd, mannau chwarae i blant, neu gynnal a chadw mannau cyhoeddus.

Roedd y symiau oedd yn ddyledus i gynghorau ym mis Rhagfyr 2011 yn amrywio ar draws y wlad - doedd dim arian yn ddyledus i gynghorau Merthyr Tudful, Sir Fynwy na Cheredigion, ond roedd dros £400,000 yn ddyledus i gynghorau Caerffili a Chaerdydd.

Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod nifer o gytundebau 106 yn "destun trafodaeth" a bod y cynghorau yn "ceisio bod yn hyblyg ac yn realistig" gyda'r datblygwyr.

Ni ddatgelodd cynghorau Powys, Ynys Môn na Bro Morgannwg y symiau oedd yn ddyledus iddynt.

Dywedodd Cyngor Torfaen eu bod yn ymwybodol o'r symiau y cytunwyd arnynt mewn cytundebau cynllunio, ond nad oeddent yn ymwybodol o'r cyfanswm oedd yn ddyledus iddynt.

'Oruchwylio rheolaeth'

Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg eu bod "yn cynnal adolygiad llawn" o'u holl gytundebau i ganfod a oedd arian yn ddyledus iddynt, a'u bod yn bwriadu codi llog petai'r taliadau'n hwyr.

Dywedodd Cyngor Powys fod eu gallu i olrhain taliadau llog yn "fan gwan" a'u bod yn recriwtio rhywun i gadw llygad ar y sefyllfa yn y dyfodol.

Dywedodd Cyngor Ynys Môn nad oeddent yn cadw'r wybodaeth berthnasol mewn cronfa ddata ganolog ac na allent felly ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth.

Hyd yn hyn nid yw Cynghorau Blaenau Gwent a Sir y Fflint wedi cadarnhau a oes unrhyw arian yn ddyledus iddynt ai peidio.

Nid oedd Cyngor Abertawe'n fodlon cadarnhau'r symiau oedd yn ddyledus, er bod ganddynt swyddog sy'n gyfrifol am "oruchwylio rheolaeth" ymrwymiadau Adran 106, a'u bod yn elwa o "Bolisi Ymrwymiadau Cynllunio cyfoes".

Dywedodd yr ymgynghorwr Llywodraeth Leol, Jeff Jones, fod "yr oes aur" pan fyddai cytundebau Adran 106 yn darparu cyfleusterau mawr, newydd wedi dod i ben o ganlyniad i'r hinsawdd economaidd anodd.

Swm penodol

Ychwanegodd fod rhai cynghorau'n cael hi'n anodd gwybod yn union faint o arian sy'n ddyledus iddyn nhw oherwydd trosiant staff a diffyg profiad o ran y broses gynllunio.

Esboniodd Peter Cox o Gymdeithas Ddinesig Caerdydd y bydd y system cynllunio yn newid yn y dyfodol yn sgil cyflwyno "lefi isadeiledd cymunedol".

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru yn 2014, a'r bwriad yw creu system fwy cyson a thryloyw, trwy gyflwyno swm penodol y bydd yn rhaid i ddatblygwyr ei dalu, yn seiliedig ar faint y tir neu nifer yr unedau a adeiladir.

Dywedodd Mr Cox y byddai gosod y lefi newydd, fydd yn cael ei benderfynu gan awdurdodau lleol, yn gofyn am farn wleidyddol gytbwys.

"Yn amlwg, byddai gosod lefi isel iawn i ddenu busnesau a thai newydd yn apelio at rai pleidiau gwleidyddol a byddai gosod lefi uchel iawn i dalu am nifer arwyddocaol o gyfleusterau cymunedol yn apelio at bleidiau gwleidyddol eraill," meddai.

Bydd y lefi newydd yn galluogi awdurdodau lleol cyfagos i gronni enillion y tâl ar gyfer cynlluniau isadeiledd mawr fel systemau trafnidiaeth.

Cyngor Swm sy'n ddyledus
Ynys Môn Dim yn gwybod
Blaenau Gwent Heb ymateb hyd yn hyn
Pen-y-bont ar Ogwr £116,852 - cafodd £80,000 o'r swm hwn ei dalu yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth BBC Cymru
Caerffili £444,215
Caerdydd £480,261
Caerfyrddin Heb ymateb hyd yn hyn
Ceredigion Dim
Conwy Dim yn gwybod
Dinbych £56,194
Y Fflint Heb ddatgan y swm
Gwynedd £158,000
Merthyr Dim
Mynwy Dim
Castell-nedd Port Talbot £13,000
Casnewydd £15,227
Penfro £347,304
Powys Dim yn gwybod
Rhondda Cynon Taf £108,000
Abertawe Dim yn gwybod
Torfaen Dim yn gwybod
Bro Morgannwg Cynnal arolwg
Wrecsam £449,175
Ffynhonnell:Cais Rhyddidd Gwybodaeth BBC Cymru

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.