Y Scarlets a'r Gweilch yn colli ond y Gleision yn ennill

Image copyright Other

Nos Wener: Y Dreigiau v Y Saraseniaid.

Cafodd y gêm ei gohirio oherwydd y tywydd oer.

Dydd Sadwrn: Sale19-14Scarlets.

Collodd y Scarlets eu gêm gyntaf yng Nghwpan LV= eleni wrth iddynt gael eu curo oddi cartref gan Sale ond maen nhw yn dal ar frig eu grŵp yn sgil buddugoliaethau yn eu tair gêm gyntaf.

Roedd y Scarlets ar y blaen 11-7 erbyn diwedd yr hanner cyntaf diolch i gais gan Edwards ond y tîm cartref wnaeth cipio'r fuddugoliaeth drwy gais gan Avua'a, a phedair cic gosb a throsiad gan MacLeod.

Ciciodd Newton ddwy gic gosb i'r Scarlets a llwyddodd Jones gydag un gic gosb.

Sale: 15 Rob Miller, 14 Tom Brady, 13 Johnny Leota, 12 Sam Tuitupou (capt), 11 Joaquin Tuculet, 10 Nick Macleod, 9 Dwayne Peel, 8 Mark Easter, 7 Hendre Fourie, 6 Onosa'i Auva'a, 5 Andrei Ostrikov, 4 Wame Lewaravu, 3 Tony Buckley, 2 Marc Jones, 1 Vadim Cobilas.

Eilyddion: 16 Joe Ward, 17 Lee Imiolek, 18 Ross Harrison, 19 Kearnan Myall, 20 Tommy Taylor, 21 Cillian Willis, 22 Luther Burrell, 23 Charlie Amesbury.

Scarlets: 15 Dan Newton, 14 Viliami Iongi, 13 Gareth Maule (capt), 12 Adam Warren, 11 Andy Fenby, 10 Aled Thomas, 9 Gareth Davies, 8 Kieran Murphy, 7 Johnathan Edwards, 6 Mat Gilbert, 5 Damian Welch, 4 Sione Timani, 3 Peter Edwards, 2 Emyr Phillips, 1 Phil John.

Eilyddion: 16 Craig Hawkins, 17 Rhodri Jones, 18 Deacon Manu, 19 Lou Reed, 20 Aaron Shingler, 21 Liam Davies, 22 Stephen Jones, 23 Liam Williams.

Dydd Sadwrn: Caerwrangon 27-19 Gweilch.

Collodd y Gweilch eu trydedd gêm yng Nghwpan LV= wrth iddynt gael eu curo oddi cartref gan Gaerwrangon.

Roedd hi'n gyfartal 7-7 ar yr egwyl wedi i Morgan sgorio cais i'r ymwelwyr ac Abbott yn croesi'r llinell i Gaerwrangon.

Ond er i Dirkson sgorio ail gais i'r Gweilch llwyddodd Drauniniu groesi'r linell ddwywaith i'r tîm cartref.

Ciciodd Goode un gic gosb a thri throsiadd i Gaerwrangon ac ymatebodd Morgan â dau drosiad i'r ymwelwyr.

Caerwrangon: Tom Arscott; Marcel Garvey, Ravai Fatiaki, Dale Rasmussen, Drauniniu; Andy Goode, Shaun Perry (capt); George Porter, Ed Shervington, Tevita Taumoepeau; James Percival, Chris Jones; Sam Betty, Jake Abbott, Blair Cowan.

Eilyddion: Aleki Lutui, James Currie, Oliver Tomaszczyk, Craig Gillies, Richard Muagututia, Jonny Arr, Danny Gray, Chris Pennell.

Gweilch: Richard Fussell; Hanno Dirksen; Tom Isaacs, Sonny Parker (c); Eli Walker; Matthew Morgan, Rhys Webb; Cai Griffiths, Scott Baldwin, Joe Rees, Lloyd Peers, James Goode, James King, Sam Lewis, Morgan Allen

Eilyddion: Mefin Davies, Duncan Jones, Will Taylor, Tom Smith, Chauncey O'Toole, Tom Habberfield, Dan Biggar, Kahn Fotuali'i

Dydd Sul: Gleision Caerdydd v Harlequins

Curodd y Gleision Harlequins 45-40 ddydd Sul gyda'r ddau dîm yn sgorio chwe chais.

Tom James oedd arwr y Gleision am iddo sgorio pedwar cais.

Luke Hamilton a Macauley Cook sgoriodd ddau gais arall y Gleision a llwyddodd Ben Blair gyda phob un o'i drosiadau.

Sgoriodd York, Stegman (2), Smith a Chisholm (2) geisiadau Harlequins.

Y Gleision: Ben Blair; Richard Mustoe; Gavin Evans, Gavin Henson; Tom James; Ceri Sweeney, Lewis Jones; John Yapp, T Rhys Thomas (c), Scott Andrews, Cory Hill, Macauley Cook, Maama Molitika, Josh Navidi, Luke Hamilton.

Eilyddion: Ryan Tyrell, Nathan Trevett, Sam Hobbs, Paul Tito, Xavier Rush, Sion Hopkins, Gareth Davies, Casey Laulala