Rhybudd am ffyrdd rhewllyd
- Cyhoeddwyd

Mae yna rybudd i yrwyr a theithwyr fod yn ofalus wrth i'r tywydd gaeafol achosi problemau yng Nghymru dros y Sul.
Cafodd dau o bobl eu hachub o lori graeanu oedd wedi tori ar ei hochr yn Nhrefynwy tua 4pm ddydd Sadwrn. Doedden nhw ddim wedi eu hanafu.
Aed â dau oedolyn a phlentyn i Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi gwrthdrawiad car ar ffordd yr A470 rhwng Glyntaff a Glan-bad yn Rhondda Cynon Taf tua 5pm ddydd Sadwrn.
Bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys torri'r oedolion yn rhydd o'r car.
Trafferthion
Roedd rhybudd i yrwyr a theithwyr fod yn ofalus wrth yrru ar yr A470 rhwng cylchfan Coryton ac Abercynon a rhwng cyffyrdd 30 a 34 yr M4 fore Sul.
Mae'n edrych yn debyg y bydd yr eira sydd wedi disgyn mewn rhannau o Gymru ddydd Sadwrn yn troi yn law ddydd Sul.
Disgynnodd eira ar rannau o dde Powys, Ynysybwl, Cil-y-coed, Llanilltud Fawr, Glyn Ebwy ac ar hyd y gororau fore Sadwrn.
Gydag aer mwy mwyn o'r gorllewin, mae disgwyl i'r tymheredd godi i 8C (46F).
Ond mae'r tywydd oer wedi creu trafferthion ar y meysydd pêl-droed a rygbi.
Ddydd Gwener cafodd y gêm rhwng y Dreigiau a Saraseniaid yng nghwpan LV ei gohirio.
Cafodd gemau Uwchgynghrair Cymru yng Nghaerdydd, Pontypridd a Thonmawr eu gohirio ddydd Sadwrn.
Hefyd cafodd gemau Uwchgynghrair Pêl Droed Cymru yn Y Bala a'r Drenewydd eu gohirio yn ogystal â'r gêm Tlws FA rhwng Casnewydd a Carshalton.
Cafodd yr ornest rhwng Lido Afan ac Aberystwyth ei ohirio nos Wener.
Yn sir Gaerfyrddin cafodd cyfarfod rasys ceffylau yn Ffoslas ei ohirio wedi i brofion gael eu cynnal fore Sadwrn.
"Gwnaethom ystyried cynnal y rasys ddydd Sul ond yn dilyn trafodaethau penderfynwyd nad oedd hyn yn ymarferol," meddai llefarydd ar ran y cwrs.