Damwain: Dyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Aed â cherddwr i'r ysbyty ag anafiadau difrifol i'w ben wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad â char yng nghanol dinas Caerdydd fore Sul.
Cafodd y dyn ei anafu yn dilyn y gwrthdrawiad â char Ford Focus coch ar Dumfries Place ger y gyffordd â Heol y Frenhines tua 5am ddydd Sul.
Cafodd y ffordd ei chau am dair awr wrth i'r heddlu ymchwilio.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 01656 655555.