Bronglais: 'Dymchwel fel pac o gardiau'

Ysbyty Bronglais Image copyright BBC news online
Image caption Yn ddiweddar, cyhoeddodd y bwrdd eu bod yn adolygu gwasanaethau

Mae llawfeddyg mwya' profiadol Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, wedi dweud ei fod e'n pryderu am ddyfodol yr ysbyty, yn sgil cynlluniau sy'n cael eu hystyried gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda i ad-drefnu'r gwasanaeth llawfeddygol yno.

Mewn cyfweliad ar raglen materion cyfoes Manylu ar BBC Radio Cymru nos Lun, mae John Llewelyn Edwards yn rhybuddio y gallai torri gwasanaethau ym Mronglais gael effaith pellgyrhaeddol.

Daw ei rybudd ychydig ddyddiau wedi i hanner cant o feddygon yr ysbyty arwyddo llythyr yn dweud eu bod nhw wedi colli hyder ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.

Daeth John Llewelyn Edwards - un o Gymry Llundain yn wreiddiol - i weithio fel ymgynghorydd llawfeddygol cyffredinol ym Mronglais ym 1982.

'Maes cyfyngedig'

Bryd hynny, roedd natur y gwasanaeth iechyd yn wahanol iawn, meddai.

Ychwanegodd Mr Edwards: "Rwy' yn pryderu, achos rwy'n gweld y bydd rhaid gwneud newidiadau i'r gwasanaeth, ond y perygl yw unwaith y tynnwch chi wasanaeth allweddol allan o ysbyty mae hynny'n cael effaith ar adrannau eraill, a'r perygl yw y bydd y cwbl yn dymchwel fel pac o gardiau."

"Pan ges i'n hyfforddiant yn yr 1960au a'r 70au, yr arferiad oedd bod pob llawfeddyg yn gwneud tamaid bach o bopeth.

"Mae pethau wedi newid nawr. Mae pawb yn gweithio mewn maes cyfyngedig.

"Felly, mae angen tîm o arbenigwyr arnoch chi. Byddai un llawfeddyg ddim yn gallu cyflwyno gwasanaeth cyffredinol, achos byddai gydag e' ddim y profiad i wneud hynny."

Ym marn y llawfeddyg, mae pwyslais y gwasanaeth iechyd ar ganoli timau o arbenigwyr llawfeddygol mewn ysbytai mawr yn newyddion drwg i Fronglais.

"Un ateb fyddai i bigo llawfeddygon ifanc a hyfforddi nhw i fod yn gyffredinwyr mewn lle fel Bronglais," meddai.

"Ond, dwi ddim yn gweld fod yr ewyllys i gael i wneud hynny."

Llawdriniaethau brys

Mae Manylu hefyd yn rhoi sylw i doriadau posib yn y gwasanaeth mamolaeth ym Mronglais, ac yn clywed am bryderon un mam ifanc o Aberystwyth.

Ddeg mis yn ôl bu'n rhaid i Elin Royles gael llawdriniaeth ym Mronglais i eni ei mab, Pwyll.

Ond o dan gynlluniau sy'n cael eu hystyried gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, byddai'n rhaid i famau sydd angen llawdriniaethau wedi'u cynllunio i eni plant fynd i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin yn y dyfodol.

Dim ond llawdriniaethau brys fyddai'n cael eu gwneud ym Mronglais.

Mae Ms Royles, sy'n ddarlithydd gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn teimlo fod hynny'n gwbl annerbyniol.

"Yn y pen draw, wrth iddyn nhw beidio â rhoi llawdriniaethau Cesaraidd wedi eu cynllunio yma ym Mronglais, bydd yna lai o arbenigedd gan staff i ddelio gyda hyn," meddai.

"Nid mater o ofyn am y ward mamolaeth fwya' arbenigol yn y wlad ydy o, ond cael lefel o wasanaeth sy'n dderbyniol yn enwedig mewn ardal sydd â chysylltiadau trafnidiaeth mor wael."

Ym marn nifer, mae 'na deimlad nad yw'r Bwrdd Iechyd yn bod yn ddigon agored am eu cynlluniau.

Ymarferiad gwrando

Dyna yw pryder Lisa Francis, cyn Aelod Cynulliad gyda'r Ceidwadwyr, sydd nawr yn aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Ceredigion - corff sy'n dod o dan strwythur Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

"Dydyn nhw (Bwrdd Iechyd Hywel Dda) ddim yn siarad o gwbl am gostau a sut maen nhw'n mynd i wella pethau," meddai Ms Francis.

"Does dim cynllun busnes o gwbl, ac mae hynny yn fy mhoeni i. Dy'n ni ddim wedi cael digon o wybodaeth, a dyw'r wybodaeth ry'n ni wedi ei gael ddim yn berthnasol."

Yn ôl llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda, maen nhw'n cynnal 'ymarferiad gwrando' ar hyn o bryd, a does dim penderfyniadau o gwbl wedi eu gwneud am ddyfodol y gwasanaeth iechyd yn yr ardal.

"Os oes pethau sy'n gofidio pobol, mae'n bwysig eu bod nhw'n gadael i ni wybod am y pethau hynny, a dyna pam ry'n ni'n cynnal yr ymarferiad gwrando yma - er mwyn cael gwybod beth yw'r angen sy' mas 'na," meddai Linda Williams, Cyfarwyddwr Sir Gaerfyrddin o Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Yr wythnos diwethaf, cafwyd y cyntaf o wyth digwyddiad mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn eu cynnal ar draws siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion i godi ymwybyddiaeth am eu syniadau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth iechyd.

Gallwch glywed rhagor ar Manylu ar BBC Radio Cymru nos Lun, Chwefror 6, toc wedi 6:00pm.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.