Ymosodiad: Dyn yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ar ddyn 21 oed yn y brifddinas fore Sul.
Fe gafodd y dyn anafiadau difrifol i'w ben ar ôl iddo gael ei ddyrnu yn ei ben y tu allan i dafarn y Crockerton ar Heol Greyfriars tua 1.30am.
Derbyniodd y dyn lawdriniaeth frys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddydd Sul.
Mae dyn 22 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
Dywed yr heddlu fod camerâu cylch cyfyng yn dangos bod nifer o bobl yn y cyffiniau pan ddigwyddodd yr ymosodiad honedig gan gynnwys pobl a gynigodd gymorth i'r dyn gafodd ei fwrw.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Bae Caerdydd ar 02920 527231 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol