Gwaith yn achosi oedi i drenau
- Cyhoeddwyd
Mae teithwyr sy'n defnyddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn wynebu oedi oherwydd gwaith peirianyddol.
Gallai cwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau First Great Western weld oedi o hyd at hanner awr.
Mae bysiau yn cael eu darparu yn lle gwasanaethau Trenau Arriva Cymru trwy Bencoed, sy'n golygu fod y siwrne 20 munud yn hirach.
Mae trenau rhwng Maesteg a Chaerdydd yn gorffen eu taith ym Mhen-y-bont.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol