Tywydd oerach i ddod yng Nghymru

Rhaedr wedi rhewi ym Mannau Brycheiniog Image copyright PA
Image caption Dros y penwythnos disgynnodd y tymheredd i'w lefel isaf y gaeaf hwn

Wedi cyfnod byr o dywydd cynhesach ar draws Cymru, bydd hi'n troi'n oerach yn ddiweddarach yr wythnos hon medd y proffwydi tywydd.

Disgynnodd y tymheredd i'w lefel isaf y gaeaf hwn dros y penwythnos, gan ddod ag eira a rhew i sawl man.

Roedd 'na rybuddion am rew yng nghanolbarth a de Cymru fore Llun ond roedd disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 8ºC ar hyd Bae Ceredigion.

Ond mae arbenigwyr yn rhybuddio bod 'na dywydd oerach a sychach ar ei ffordd.

Ar ddechrau'r wythnos roedd gan y Swyddfa Dywydd naw rhybudd am rew mewn rhannau o Gymru a Lloegr.

Roedden nhw'n rhybuddio am oedi i deithwyr, gan ddweud bod rhew yn debygol o fod yn broblem ar ffyrdd a phalmentydd ar draws rhannau o dde ddwyrain Cymru.

Roedd y rhybuddion yn para tan hanner dydd ddydd Llun.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.