Alun Michael AS yn galw am daclo eithafwyr ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Alun Michael ASFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae Mr Michael eisiau "partneriaeth" gyda darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd er mwyn taclo eithafiaeth

Mae Aelod Seneddol o Gymru'n galw am wneud mwy i gysylltu gyda phobl ifanc a thaclo radicaliaeth ar y rhyngrwyd.

Dywedodd Alun Michael, Aelod Seneddol Llafur dros Gaerdydd a Phenarth, y dylai darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd edrych ar ffyrdd o "ddelio gyda'r broblem".

Mae Mr Michael yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartre', sydd wedi rhybuddio llywodraeth y DU i beidio ag anwybyddu'r bygythiad gan derfysgaeth asgell dde eithafol.

Yn y cyfamser, bydd dau ddyn o Gaerdydd yn cael eu dedfrydu'n ddiweddarach am eu rhan mewn cynllwyn i ymosod ar leoliadau yn Llundain.

Mae'r brodyr Gurukanth Desai, 30, ac Abdul Miah, 25 ymhlith pedwar o ddynion a blediodd yn euog i gynllwynio i ffrwydro bom yn y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain.

Mae'r grŵp Islamaidd, sydd â chysylltiadau ag Al-Qaeda, wedi cyfadde' bod yn rhan o baratoadau i gyflawni gweithredoedd terfysgol.

Roedd pum dyn arall wedi pledio'n euog i droseddau terfysgol eraill, gan gynnwys Omar Latif, 28 o Gaerdydd, a gyfaddefodd iddo fynychu cyfarfodydd gyda'r bwriad o gynorthwyo eraill i gyflawni gweithredoedd terfysgol.

Mae disgwyl i'r naw dyn, a arestiwyd ym mis Rhagfyr 2010, ymddangos yn Llys y Goron Woolwich ddydd Llun a byddant yn cael eu dedfrydu'n ddiweddarach yn yr wythnos.

'Tystiolaeth gredadwy'

Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae Gurukanth Desai ac Abdul Miah ymhlith y rhai fydd yn cael eu dedfrydu

Yn y cyfamser, mae'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartre' wedi cyhoeddi adroddiad yn rhybuddio darparwyr rhyngrwyd bod yn rhaid taclo eithafiaeth ar-lein.

Mewn adroddiad ar radicaliaeth, dywedodd yr Aelodau Seneddol eu bod wedi clywed "tystiolaeth gredadwy" ynglŷn â'r perygl.

Yn ôl yr ASau, roedd radicaliaeth Islamaidd dreisgar fel petai'n encilio ond roedd 'na bosibilrwydd bod cefnogaeth i safbwyntiau eithafol di-drais ar gynnydd oherwydd "teimladau eu bod wedi'u dieithrio".

Cyfeiriodd y pwyllgor at grwpiau adain dde eithafol oedd â chysylltiadau gyda sefydliadau tebyg yn Ewrop.

Galwodd Mr Michael ar i'r "rheiny sy'n rhan o'r diwydiannau rhyngrwyd i edrych ar ffyrdd o daclo'r broblem."

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn i gael cydweithio, i gael pawb sy'n gweld y we fel rhywbeth pwysig a rhydd i weld mai cydweithio yw'r ffordd i sicrhau ei fod yn dal i fod yn rhydd".

"Dwi ddim yn meddwl ei fod yn gwestiwn o gael deddfwriaeth newydd.

"Mae'n fater o weld sut mae pobl yn ymddwyn ar y we ac wedyn ar y llaw arall mae angen cysylltu gyda phobl ifanc - dynion ifanc yn enwedig - a'u cyflwyno nhw i ffordd fwy positif o fyw, achos dydyn nhw ddim mor debygol wedyn o gael eu radicaleiddio neu fynd i berthyn i gangiau neu bethau eraill negyddol mewn cymdeithas."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol