Perygl E.coli mewn cae chwarae
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad Cyngor Conwy yn dweud bod cae chwarae, grëwyd fel rhan o system rheoli llifogydd, mewn perygl o gael ei heintio gydag E.coli adeg llifogydd.
Mae'r cae yn Nhrefriw yn rhan o gynllun Asiantaeth yr Amgylchedd.
Cafodd yr ardal ei chau i'r cyhoedd ym mis Medi pan gafodd E.coli ei ddarganfod ac mae rhan o'r ardal yn dal ynghau.
Bydd mwy o waith monitro'n cael ei gynnal ac mae llythyr wedi ei ysgrifennu at yr ysgol leol yn cynghori ynglŷn â'r perygl o dresbasu i'r ardal dan sylw.
Bydd Pwyllgor Craffu Cymunedau Conwy'n trafod yr adroddiad ddydd Iau.
'Ailadrodd'
Yn ôl yr adroddiad: "Y darogan yw na fydd hon yn sefyllfa unigryw a'i bod yn debygol o gael ei hailadrodd bob tro y bydd 'na lifogydd."
Cafodd y dŵr ei brofi wedi llifogydd fis Medi diwetha'.
Mae'r adroddiad yn dweud fod y "lefel E.coli oedd yn bresennol yn awgrymu bod carthffosiaeth neu dom anifail wedi llygru'r dŵr", a chafodd ffens ddur ei chodi.
Yn dilyn profion ym mis Tachwedd a Rhagfyr roedd lefel E.coli wedi gostwng i "lefelau cefndir" a chafodd rhan o'r ardal dan sylw ei hailagor.