Llys: 'Ddim am fod yn hunan-fomwyr'
- Cyhoeddwyd

Mae grŵp o ddynion blediodd yn euog i gyhuddiad o baratoi am ymosodiad terfysgol wedi dweud nad oedden nhw am fod yn hunan-fomwyr oherwydd ymgyrch dymor hir.
Yn Llys y Goron Woolwich yn Llundain plediodd Gurukanth Desai ac Abdul Miah o Gaerdydd a Mohammed Chowdhury a Shah Rahman o Lundain yn euog.
Cafodd y pedwar eu harestio ym mis Rhagfyr 2010 ac mae pum dyn arall wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o droseddau terfysgol eraill.
Cylchgronau
Wrth agor achos yr erlyniad ar ddiwrnod cynta'r gwrandawiad, dywedodd Andrew Edis QC fod gan y naw "bron pob cyhoeddiad enwog jihad," gan gynnwys rhifynnau cylchgrawn a ysbrydolwyd gan al-Qaeda o'r enw Inspire.
Mae'r pedwar uchod wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau mwy difrifol tra bod Omar Latif, 28 oed o Gaerdydd, Usman Khan, Mohammed Shahjahan Nazam Hussain a Mohibur Rahman wedi pledio'n euog i'r troseddau llai difrifol.
Mynnodd Mr Edis eu bod yn rhan o'r un grŵp.
"Yn Hydref 2010 fe ffurfiodd y naw diffynnydd y grŵp gyda'r bwriad o gefnogi a chyflawni gweithredoedd terfysgol er mwyn hybu eu credoau crefyddol.
Oriau
"Yr hyn a welwyd yn y cyfnod wedyn oedd cynllunio am y dyfodol heb ymosodiadau hunan-fomio fel y byddai dyfodol tymor hir fyddai'n cynnwys gweithredoedd terfysgol pellach."
Yn un rhifyn cylchgrawn Inspire roedd erthygl yn dangos "Sut i wneud bom yng nghegin eich mam" gyda chyfarwyddiadau gam wrth gam.
Clywodd y llys y gallai hon fod wedi arwain at fom effeithiol o fewn oriau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012