Cau ffordd oherwydd tirlithriad
- Cyhoeddwyd
Mae ffordd ym Mhowys wedi ei chau oherwydd tirlithriad.
Dywedodd y cyngor sir fod yr A4067 i'r gogledd o Ynyswen ger Ystradgynlais wedi ei chau a bod traffig yn cael ei ddargyfeirio.
"Mae'r tir yn ansefydlog ac os yw cerbydau ar y ffordd mae'n ormod o risg," meddai llefarydd.
"Ac mae mesurau mewn grym fel na fydd y cau am gyfnod hir."