Yr wyth cân ar y rhestr fer ar gyfer Cân i Gymru 2012

  • Cyhoeddwyd
Elin Fflur a Dafydd Du fydd yn cyflwyno Cân i Gymru 2012Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Elin Fflur a Dafydd Du fydd yn cyflwyno'r rhaglen ar Fawrth 4

Cafodd manylion yr wyth cân a fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni eu cyhoeddi.

Roedd 120 o ganeuon wedi dod i law ac, yn ôl y beirniaid, roedd yn "ymateb da iawn".

Mae rhai o'r enwau tu ôl i'r caneuon yn enwau adnabyddus i'r gystadleuaeth ac eraill yn enwau newydd.

Elin Fflur a Dafydd Du fydd yn cyflwyno'r gystadleuaeth yn fyw ar S4C o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid nos Sul, Mawrth 4.

Yr wyth cân a'r cyfansoddwyr yw:

  • Braf yw Cael Byw - Gai Toms a Philip Jones
  • Gwybod yn Well - Arwel Lloyd Owen
  • Cynnal y Fflam - Rhydian Pughe
  • Pan Mae'r Haul yn Codi - Aled Ellis-Davies
  • Cain - Nia Davies Williams a Sian Owen
  • Gorffen y Llun - Peter Jones a Rhys Iorwerth
  • Garth Celyn - Gwilym Bowen Rhys a Siân Harris
  • Dim Ond Ffŵl sy'n Ffoi - Derfel Thomas a 'Rocet' Arwel Jones

Bydd y cyfansoddwyr yn gweithio gyda'r cynhyrchydd Meilir Gwynedd er mwyn paratoi eu cân ar gyfer y gystadleuaeth.

"Dwi'n meddwl bod y panel wedi gwneud job dda o ddewis y rhestr fer ac mae'n anrhydedd cael bod yn rhan o raglen sydd mor boblogaidd," meddai Meilir, sy'n aelod o'r band Sibrydion.

"Dwi'n ffeindio'r holl broses yn ddiddorol achos mae yna gwpwl o enwau yma sydd yn gigio ar y sîn roc Gymraeg yn gyson, ond hefyd rhai sydd yn cyfansoddi yn eu hamser eu hunain yn breifat.

"Mae'n gyfle grêt iddyn nhw gael gweld bod eu gwaith nhw llawn cystal â phobl eraill."

Cyn-enillwyr

Un o aelodau'r rheithgor eleni yw'r gantores Heather Jones.

Union 40 mlynedd yn ôl, yn 1972, fe ganodd hi'r gân fuddugol 'Pan Ddaw'r Dydd' a gyfansoddwyd gan Geraint Jarman.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Enillwyr y llynedd, Steve Balsamo ac Ynys Roberts gyda'r berfformwraig Tesni Jones

Cyn enillydd arall fydd yn ymuno â Heather ar y rheithgor, sef Ynyr Roberts o'r grŵp Brigyn.

Fe ddaeth Ynyr i'r brig y llynedd gyda'r gân 'Rhywun yn Rhywle' yr oedd wedi ei chyfansoddi ar y cyd â Steve Balsamo.

Y ddau aelod arall o'r rheithgor yw'r gantores Lisa Jên Brown o'r band 9Bach a'r cyfansoddwr amryddawn Alun 'Sbardun' Huws.

Gwobrau

"Rydym yn falch iawn gyda'r ymateb i'r gystadleuaeth eto eleni, a llongyfarchiadau i'r wyth sydd wedi eu dewis ar y rhestr fer," meddai Medwyn Parri, Pennaeth Digwyddiadau a Theledu Achlysurol S4C.

"Hoffwn ddiolch i Meilir Gwynedd am ei gyfraniad i'r gystadleuaeth eleni ac rwy'n edrych ymlaen i glywed sut mae'r caneuon wedi datblygu erbyn y gystadleuaeth.

"Ond, barn y gwylwyr a'r panel o feirniaid fydd yn cyfri ar y noson."

Bydd modd i'r gwylwyr bleidleisio dros y ffefryn yn ystod y rhaglen fyw.

Bydd y gân gyda'r cyfanswm mwyaf o bleidleisiau - sy'n gyfuniad o bleidlais y gwylwyr a phanel y rheithgor - yn cipio'r brif wobr o £7,500, tlws Cân i Gymru a'r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Yn ogystal â'r brif wobr, mae hefyd gwobr o £2,000 ar gyfer yr ail safle, a £1,000 i'r trydydd safle.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol