Urdd yn dewis lleoliad Eisteddfod
- Cyhoeddwyd

Bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro yn cael ei chynnal yn ardal Boncath yn 2013.
Roedd deg o ardaloedd wedi cynnig am yr ŵyl gan gynnwys ardaloedd mwy Seisnigaidd y Sir yn y de/
Fe wnaeth Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod lunio rhestr fer o safleoedd yn cynnwys Cilwendeg ger Boncath, safle'r hen feysydd awyr yn Nhŷddewi a Thredeml, safle Castell Caeriw a maes sioe Hwlffordd.
Bu rhai yn dadlau y byddai cynnal yr Ŵyl yn y de neu yng nghanol y sir yn ehangu apêl yr Eisteddfod ymhlith y di-Gymraeg.
Maen nhw'n dweud bod 'na golli cyfle wedi bod.
Gwaith ymchwil
Mae mwyafrif y Cymry Cymraeg yn byw yng ngoledd y sir.
"Gohiriwyd y penderfyniad ynglŷn â safle'r Eisteddfod mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr a hynny er mwyn gwneud mwy o waith ymchwil ar leoliadau posibl o fewn y sir," meddai llefarydd ar ran y Pwyllgor Gwaith.
Yn dilyn y gwaith ymchwil trafodwyd un safle ychwanegol, sef Castell Haidd.
Gwnaed y penderfyniad o blaid dewis y safle yng Nghilwendeg ar Chwefror 1.
Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: "Mae'n destun balchder fod cynifer o ardaloedd wedi bod yn awyddus i groesawu'r Eisteddfod a pherchnogi'r ŵyl.
"Fel mae'r gwaith o godi arian eisoes wedi ei ddangos, mae brwdfrydedd mawr yn Sir Benfro a nifer helaeth o bobl yn gweld budd o gynnal yr Eisteddfod."
Dywedodd y Cynghorydd Huw George sy'n cynrychioli Maenclochog bod 'na golli cyfle wedi bod.
"Meddyliwch am y gwaddol fyddai i'r rhieni sy'n danfon eu plant i'r uned Gymraeg.
"Dwi'n derbyn bod y pwyllgor gwaith wedi gwneud eu penderfyniad.
"Ond yn siomedig ein bod wedi colli cyfle i hyrwyddo urdd Gobaith Cymru ac mae'r gobaith yn y meysydd gwynion yn y de lle mae 'na gefnogaeth i'r Gymraeg."
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd, Sir Benfro rhwng Mai 27 a Mehefin 1, 2013.
Straeon perthnasol
- 27 Ionawr 2012
- 16 Rhagfyr 2011
- 9 Tachwedd 2011