Morgannwg am arwyddo Mitchell Johnson

Mitchell Johnson Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Y disgwyl yw i Johnson fod yn holliach erbyn mis Ebrill eleni

Mae tîm criced Morgannwg wedi cadarnhau eu bod wedi gofyn i chwaraewr amryddawn Awstralia, Mitchell Johnson, i fod yn rhan o'u hymgyrch T-20 eleni.

Mae hyfforddwr y clwb criced, Matthew Mott, wedi cadarnhau bod Morgannwg wedi holi'r bowliwr cyflym llaw chwith i fod eu hail chwaraewr tramor.

Mae batiwr Awstralia, Marcus North, eisoes wedi arwyddo i'r clwb ar gyfer tymor 2012, hefyd wedi gofyn i Johnson chwarae i Forgannwg.

Nid yw Johnson, sydd wed cymryd 190 o wicedi mewn 47 prawf i Awstralia, wedi chwarae dros ei wlad ers iddo gael llawdriniaeth am anaf i'w goes chwith wedi buddugoliaeth Awstralia yn erbyn De Affrica ym mis Tachwedd y llynedd.

Gorllewin Awstralia

Mae disgwyl iddo fod yn holliach erbyn mis Ebrill eleni.

Mae'r chwaraewr 30 oed yn gobeithio cymryd rhan yng nghystadleuaeth 20 pelawd Uwchgynghrair India (IPL) wedi'r ocsiwn am chwaraewyr fydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn.

Pe na bai yn cael ei ddewis gan un o dimau'r IPL gallai Johnson ymuno â North yn nhîm 20 pelawd Morgannwg.

Bydd Morgannwg yn chwarae eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth y T-20 ar Fehefin 14 pan fyddan nhw'n herio Swydd Northampton gan obeithio cymhwyso ar gyfer rowndiau go-gyn-derfynol y gystadleuaeth am y tro cyntaf er 2008.

Fe fydd rowndiau cynderfynol a rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael eu cynnal yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd ym mis Awst.

Byddai'n rhaid i Cricket Australia roi caniatâd i Johnson chwarae i Forgannwg ond mae'n debyg fod y chwaraewr o Orllewin Awstralia yn awyddus i chwarae yn ne Cymru.

"Fyddwn i ddim yn dweud mai T-20 yw fy hoff ffurf o'r gêm ond fe fydd yn ffordd dda i mi ddechrau chwarae eto," meddai Johnson wrth gwmni Chwaraeon Fox.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.