Tân: Achub dau ddyn oedrannus
- Cyhoeddwyd
Cafodd dau ddyn oedrannus eu hachub gan ddiffoddwyr tân yn gynnar bore Mercher.
Fe wnaeth y tân ddifrodi fflat cyfagos yn Carterford Place, Abertawe tua 12.30am.
Aed â'r ddau ddyn i'r ysbyty yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.
Cafodd dwy injan dân eu galw i'r digwyddiad yn y fflat llawr gwaelod.
Cafodd dyn oedd yn y fflat hwnnw driniaeth am effeithiau anadlu mwg wedi iddo ddianc o'r fflat.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol